Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi bod yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i ddiogelu pobl hŷn rhag troseddau a chael eu cam-drin a sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnyn nhw.
Mae rhagor o wybodaeth am waith y Grŵp Atal Cam-drin ar gael drwy ddilyn y ddolen yma.
Fel rhan o’r gwaith, mae'r Comisiynydd wedi datblygu taflen wybodaeth newydd i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin, neu’r rheini a allai fod mewn perygl.
Mae’r daflen yn rhoi gwybodaeth i helpu pobl i adnabod arwyddion cam-drin a’r gwahanol fathau o gam-drin, yr hyn y gall pobl ei wneud os ydyn nhw’n poeni am rywun arall, a lle mae cymorth a chefnogaeth ar gael.
Mae modd darllen fersiwn electronig o’r daflen drwy ddilyn y ddolen hon.
Mae modd cael copi caled o’r daflen hefyd drwy gysylltu gyda'r Comisiynydd ar e-bost– ask@olderpeoplewales.com – neu ffonio 03442 640 670.