Kidwelly Town Council Logo
Menu

Trigolion mewn perygl o gael eu twyllo ynghylch y brechlyn COVID-19.

Mae Tîm Trosedd Economaidd Heddlu Dyfed Powys wedi dod yn ymwybodol bod troseddwyr wedi bod yn anfon neges testun ac e-byst yn ceisio denu pobl i wneud cais am y brechlyn COVID-19.

Dywedodd Ditectif Gwnstabl Gareth Jordan, o’r Uned Seiberdroseddu: “Gwneir y testun i edrych fel ei fod yn dod o’r GIG ac yn nodi ‘rydym wedi nodi eich bod yn gymwys i wneud cais am eich brechlyn’ ac yn eich cynghori i ddilyn dolen i gael mwy o wybodaeth a 'gwneud cais'."

“Os dilynwch y ddolen, fe'ch tywysir i wefan ffug y GIG sy'n gofyn am eich manylion personol.

“Ar ôl nodi eich manylion, mae’n gofyn am fanylion banc / cerdyn i ‘wirio pwy ydych chi’.”

“Ond fel gyda phob twyll, os edrychwch ychydig yn agosach, fe welwch nad yw’n gywir. Yn yr achos hwn, nodwch nad yr URL yn nodi www.nhs.uk/

 NHS scam 1NHS scam 2

 “Gan fod nifer o frechlynnau bellach yn cael eu cymeradwyo i’w defnyddio yn y DU, bydd y mathau hyn o ymdrechion twyll yn parhau wrth i droseddwyr geisio manteisio ar gyflwyniad y brechlyn.

“Byddwch yn wyliadwrus o alwadau oer a negeseuon e-bost ynglŷn â’r brechlyn yn ogystal â negeseuon testun oddi wrth y twyllwyr bydd yn gofyn i bobl dalu amdano dros y ffôn. Cofiwch - mae’r brechlyn yn rhad ac am ddim ac nid oes unrhyw ffordd i neidio’r ciw trwy dalu am 'flaenoriaeth'.

“Os ydych chi'n derbyn un o'r galwadau hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi'r ffon i lawr a blocio'r rhif.

“Os ydych wedi derbyn e-bost, nad ydych yn hollol siŵr yn ei gylch, anfonwch ef ymlaen at y Gwasanaeth Adrodd E-bost Amheus (SERS): report@phishing.gov.uk


“Dylid anfon negeseuon testun amheus at 7726. Mae'r cod byr rhad ac am ddim hwn yn galluogi'ch darparwr i ymchwilio i darddiad y testun a gweithredu, os canfyddir ei fod yn faleisus.”

Cofiwch:
Arhoswch: Cymerwch eiliad i feddwl cyn talu arian neu rannu gwybodaeth - gallai eich cadw'n ddiogel.
Heriwch: A allai'r neges fod yn ffug? Mae'n iawn gwrthod neu anwybyddu unrhyw geisiadau. Dim ond troseddwyr fydd yn ceisio eich hastu neu eich cynhyrfu.
Amddiffynwch: Cysylltwch â'ch banc ar unwaith os ydych chi'n meddwl eich bod wedi dioddef twyll a dweud wrth yr Heddlu.
Cofiwch - Ni fydd y GIG, yr heddlu, na'ch banc, byth yn gofyn ichi godi arian na'i drosglwyddo i gyfrif gwahanol. Ni fyddant byth yn gofyn ichi ddatgelu'ch cyfrinair bancio llawn na'ch PIN.

Peidiwch â chlicio ar ddolenni neu atodiadau mewn negeseuon testun neu e-byst annisgwyl neu amheus.
Cadarnhewch fod ceisiadau yn ddilys trwy ddefnyddio rhif hysbys neu gyfeiriad e-bost i gysylltu â sefydliadau yn uniongyrchol.

GIG twyll y brechlyn

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.