Kidwelly Town Council Logo
Menu

Adolygiad Cyfyngiadau Lleol Ardal Llanelli 16eg Hydref 2020

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi canlyniad ein hadolygiad diweddaraf o gyfyngiadau yn ardal Llanelli, a sut y mae'r sefyllfa'n edrych ar draws Sir Gaerfyrddin.

Y newyddion da yw bod y parth diogelu iechyd sy'n cwmpasu rhan fawr o Lanelli yn gweithio'n dda ac yn helpu i leihau nifer yr achosion positif o Covid-19; fodd bynnag, mae pryderon yn cynyddu ynghylch lledaeniad Covid-19 mewn mannau eraill yn Sir Gaerfyrddin.

Rhoddir diolch i'r bobl sy'n byw yn y parth am eu hymdrechion a gofynnir iddynt barhau â'r gwaith da am o leiaf wythnos arall er mwyn helpu i ostwng y niferoedd ymhellach fyth.

Rydym yn parhau i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru er mwyn parhau i adolygu'r sefyllfa'n gyson.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth gan gynnwys dadansoddiad llawn o'r ffigurau sydd wedi'u diweddaru.

Os oes gennych unrhyw un o symptomau Covid-19, gan gynnwys peswch parhaus newydd, gwres uchel, neu golli synnwyr blas ac arogl, arhoswch gartref a threfnwch brawf drwy wefan y DU (dilynwch y ddolen hon er mwyn trefnu am brawf) neu drwy ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm (gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119).

• Cwestiynau cyffredin lleol am brofi ac olrhain. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

• Rhagor o wybodaeth am gyfyngiadau ardal Llanelli. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

• Diweddariadau Covid-19 eraill ar draws Sir Gaerfyrddin. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor. 

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.