Rydym yn datblygu ein Huwch-gynllun Tai ac Adfywio 10 mlynedd newydd ac rydym am gael eich barn i'n helpu i lunio dyfodol tai yn Sir Gaerfyrddin.
Mae darparu cartrefi fforddiadwy o safon yn flaenoriaeth allweddol i'r cyngor ac rydym yn buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn stoc dai newydd, creu swyddi y mae mawr eu hangen a helpu i dyfu'r economi leol ac adfywio cymunedau.
Anogir trigolion a busnesau i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar-lein a dweud wrthym ble rydych chi'n credu y dylid datblygu'r tai hyn, pwy ddylai eu cael, a pha fath a maint ddylent fod.
Bydd yr uwch-gynllun hefyd yn cydnabod rôl datblygu tai a buddsoddi o ran ysgogi twf economaidd cyffredinol y sir – sydd bellach hyd yn oed yn fwy pwysig wrth i ni adfer yn sgil effeithiau economaidd pandemig COVID-19.
Mae'r arolwg yn cau ar 26 Gorffennaf.