Cymerwch ran yn ein Harolwg Cysylltedd Digidol
Mae FfCyM-Cymru, ar y cyd â Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a’r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad (CLA Cymru), wedi lansio arolwg gyda’r nod o greu darlun o gysylltedd digidol ar draws Cymru.
Ers Covid-19 mae pwysigrwydd cysylltedd digidol da wedi dod yn fwyfwy amlwg. Rydym wedi dibynnu ar fynediad i’r rhyngrwyd i gadw mewn cysylltiad â theulu, ffrindiau a’n cymunedau yn ogystal ag ar gyfer gwaith, busnes, addysg, hamdden a gweithgareddau pob dydd.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad oes pawb gyda mynediad i fand eang ‘digonol’, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Ofcom ym mis Rhagfyr 2020, nid oes gan 18,000 o gartrefi fynediad i fand eang ‘digonol’, sy’n darparu cyflymder lawrlwytho o 10 Mb yr eiliad a chyflymder lanlwytho o 1 Mb yr eiliad.
Cymerwch ran yn ein harolwg ar-lein i rannu eich profiadau gyda ni a rhannwch yr arolwg gydag eraill:- https://www.surveymonkey.co.uk/r/Q52Z77J
Mae’r arolwg yn gwbl ddienw ac yn agored i unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn.
Os oes angen copi caled arnoch, cysylltwch â Swyddfa FfCSyM-Cymru ar walesoffice@nfwi-wales.org.uk neu 029 2022 1712.