Mae Canolfan Tywysoges Gwenllian yn lleoliad perffaith ar gyfer Cyngherddau, Cyfarfodydd, Digwyddiadau a Chwaraeon.
Agorwyd y Ganolfan ym Mai 2001 ac mae'n cynnig cyfleusterau gwych. Lleolir y Ganolfan ar Hillfield Villas, Heol yr Orsaf, Cydweli.
Mae'r Ganolfan yn cynnwys cyfleusterau gwych gan gynnwys ystafelloedd cynadledda, dau far trwyddedig, cegin gyda' holl gyfarpar, derbynfa a thoiledau hygyrch. Gellir cynnal partïon plant, digwyddiadau chwaraeon a phriodasau yma.
Mae'r Neuadd Fawr maint 30 x 16 o fetrau a gellir rhoi lle i 450 o seddi. Mae llwyfan symudol maint 6 x 24 o fetrau ar gael hefyd sy'n medru cael ei roi mewn sawl siâp, er enghraifft, ar gyfer sioe ffasiynau, fel llwyfan aml lawr ar gyfer corau neu fel llwyfan arferol gellir ei roi ar bedwar gwahanol uchder.
Mae patio ar ochr y neuadd sy'n gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer barbeciw ayyb. Mae maes parcio pwrpasol ar gyfer y neuadd a llecyn ychwanegol ar gyfer parcio wrth gefn y neuadd. Mae Canolfan Tywysoges Gwenllian yn lleoliad delfrydol ar gyfer pob math o ddigwyddiadau.
Cynhelir pob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau yma gan gynnwys cyngherddau Ysgol a chorau, dawnsfeydd, Clwb Camerâu, Clwb Dawns, Pêl-droed pum-bob-ochr, Pêl-rwyd, Bowlio, Criced a thenis bwrdd.
Llwythwch yr amserlen i lawr (PDF Saesneg yn unig)
Er mwyn gwneud ymholiadau neu archebu ystafell(oedd) cysylltwch gyda'r gofalwr drwy ffonio 01554 891801