CAU FFORDD DROS DRO - U2230, HEOL CAPEL TEILO, CYDWELI.
Mae cais wedi dod i law am gau dros dro ffordd yr U2230, Heol Capel Teilo, Cydweli, o bwynt sydd 680 metr i'r gogledd-ddwyrain o'i chyffordd â'r B4308 am bellter o 580 metr i gyfeiriad y gogledd/gogledd-orllewin.
Mae angen cau'r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth i MJ Quinn wneud gwaith i ailosod 3 pholyn wrth ymyl y ffordd ar ddydd Llun 26 Ebrill 2021 am 1 diwrnod.
Y ffordd arall ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de fydd mynd ar hyd yr U2230 i gyfeiriad y gogledd-orllewin hyd at ei chyffordd â'r C2057 (Heol y Meinciau) gan fynd heibio i eiddo o'r enw Oak Cottage. Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a pharhau ar hyd yr C2057 (Heol y Meinciau) i gyfeiriad y de-orllewin hyd at ei chyffordd â'r A484 gan fynd heibio i eiddo o'r enw Swn-y-Mor a Golygfa’r Cwm. Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a pharhau ar hyd yr A484 i gyfeiriad y de-orllewin hyd at ei chyffordd â'r B4308. Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a pharhau ar hyd y B4308 i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at ei chyffordd â'r U2230, Heol Capel Teilo gan fynd heibio i eiddo a elwir yn Muddlescwm Cottages a Heatherstan Farm. Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a pharhau ar hyd yr U2230, Heol Capel Teilo i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain er mwyn dychwelyd i fan sydd i'r de o'r man lle mae'r ffordd ar gau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r gogledd.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld cynllun (nad yw wrth raddfa) sy'n dangos y darn ffordd a gaeir ynghyd â'r ffordd arall.