Kidwelly Town Council Logo
Menu

CAU FFORDD DROS DRO - Y B4308 Heol Trimsaran, Cwm-bach

Mae cais wedi dod i law am gau dros dro y B4308 Heol Trimsaran, Cwm-bach o bwynt 1.2 milltir i'r gogledd-orllewin o gylchfan y Ffwrnes am bellter o 400 metr i'r gogledd-orllewin.

 

Mae angen cau'r ffordd i sicrhau diogelwch y cyhoedd tra bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwneud gwaith gosod wyneb newydd o 10 Awst 2020 am 3 diwrnod rhwng 07:30 a 18:00 bob dydd tan 13 Awst 2020.

 

Y ffordd arall i draffig sy'n teithio tua'r gogledd-orllewin fydd mynd tua'r B4308 i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at gylchfan y Ffwrnes. Wrth y gylchfan, cymryd yr allanfa gyntaf i'r B4309 a pharhau ar hyd y B4309 i gyfeiriad y gogledd i'r gogledd-orllewin hyd at y gyffordd â'r B4317, gan fynd heibio i eiddo a elwir yn Gwesty Parc y Strade, Ffwrnes a Fferm Blaengwastod, Pump-hewl. Troi i'r chwith wrth y gyffordd a pharhau ar hyd y B4317 i gyfeiriad y de-orllewin i'r de hyd at y gyffordd â'r B4308, gan fynd heibio i eiddo a elwir yn Capel Bethel, Heol Trimsaran a Culla House, Trimsaran. Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a pharhau ar hyd y B4308 i gyfeiriad y de-ddwyrain, gan fynd heibio i eiddo a elwir yn Parc-Wilws-Fach, Heol Trimsaran er mwyn dychwelyd i fan sydd i'r gogledd-orllewin o'r man cau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de-ddwyrain.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld map o'r darn ffordd sydd i'w gau.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld map o'r ffyrdd eraill y gall teithwyr fynd arnynt.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.