Kidwelly Town Council Logo
Menu

CAU FFORDD DROS DRO - YR U2226, HEOL HOREB, MYNYDDYGARREG, CYDWELI

CAU FFORDD DROS DRO - YR U2226, HEOL HOREB, MYNYDDYGARREG, CYDWELI

Mae cais wedi dod i law am gau dros dro yr U2226, Heol Horeb, Mynyddygarreg, o bwynt 590 metr i'r gogledd-ddwyrain o'r gyffordd â Heol yr Ysgol am bellter o 150 metr tua'r gogledd-ddwyrain.

Mae angen cau'r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth i Dŵr Cymru wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol i drwsio carthffos sydd wedi cwympo o ddydd Llun 19 Ebrill am gyfnod o 3 diwrnod.

Y ffordd arall ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de-orllewin fydd parhau ar hyd yr U2226 i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain hyd at y gyffordd â'r C2068 (Pedair-hewl i Borth-y-rhyd). Wrth y gyffordd, troi i'r dde a pharhau ar hyd yr C2068 tua'r gogledd-ddwyrain i'r de-ddwyrain hyd at y gyffordd â'r C2057. Wrth y gyffordd, troi i'r dde a pharhau ar hyd yr C2057 tua'r de-orllewin hyd at y gyffordd â Heol yr Ysgol. Wrth y gyffordd, troi i'r dde a pharhau ar hyd Heol yr Ysgol tua'r gogledd-orllewin hyd at y gyffordd â'r U2226 (Heol Horeb). Wrth y gyffordd, troi i'r dde a pharhau ar hyd Heol Horeb tua'r gogledd-ddwyrain er mwyn dychwelyd i bwynt sydd i'r de-orllewin o'r man lle mae'r ffordd ar gau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r gogledd-ddwyrain.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld cynllun (nad yw wrth raddfa) sy'n dangos y darn ffordd sydd i'w gau a'r ffyrdd eraill y gall teithwyr fynd arnynt.

 

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.