Mae cais wedi dod i law am gau dros dro yr C2121 Llan-saint, Cydweli o'r gyffordd â'r U2232 am bellter o 770 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain.
Mae angen cau'r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth i BT Openreach gyflawni gwaith gosod ceblau o ddydd Iau 23 Medi, 2021 am gyfnod o 3 diwrnod (dim gwaith ar y penwythnos).
Y ffordd arall i draffig sydd am deithio tua'r gogledd-ddwyrain fydd mynd i gyfeiriad y de-orllewin hyd at y gyffordd â'r C2057. Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a pharhau ar hyd yr C2057 i gyfeiriad y dwyrain hyd at y gyffordd â'r C2119. Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a pharhau ar hyd yr C2119 i gyfeiriad y gogledd-orllewin hyd at y gyffordd â'r C2074. Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a pharhau ar hyd yr C2074 i gyfeiriad y de-orllewin heibio er mwyn dychwelyd i fan sydd i'r gogledd-ddwyrain o'r man lle mae'r ffordd ar gau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de-orllewin.