Kidwelly Town Council Logo
Menu

Cludiant ar gyfer pawb - Dolen Teifi

Mae Sharen Davies yn Swyddog Datblygu Cludiant Cymunedol gyda Dolen Teifi ar gyfer Llanelli/Rhydaman. Ar hyn o bryd mae Sharen yn gweithio gyda nifer o sefydliadau i amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael o ran trafnidiaeth. Mae gan ysgolion/sefydliadau/unigolion broblemau gyda dod o hyd i, a chost cludiant. Gall hyn hefyd fod yn rhwystr i gael mynediad at wasanaethau lleol.


Mae Cludiant Dolen Teifi yn fodd fforddiadwy i ysgolion/sefydliadau/grwpiau/unigolion deithio. Mae gennym gerbydau yn Llanelli, Caerfyrddin, Llandysul, Rhydaman, Llanybyther ac Aberaeron.

Mae gennym nifer o fysiau bach cymunedol. Mae'r bysiau'n amrywio o un drydan 7 sedd, trydan 13 sedd at un Diesel 16 sedd.

Mae'r bws 7 sedd yn 49c y filltir.
Mae'r bws 13 sedd yn £1.00c y filltir.
Mae'r bws diesel 16 sedd yn £1.80c y filltir.

Rydym yn cynnig hyfforddiant Tystysgrif MIDAS yn rhad ac am ddim, er mwyn i sefydliadau/ysgolion/grwpiau/unigolion logi a gyrru eu hunain i weithgareddau.

Y meini prawf ar gyfer gyrru'r bws: Rhaid i bob gwirfoddolwr fod yn 25 oed a throsodd, gyda 2 flynedd o brofiad gyrru, hyd at 70 oed, dros 70 oed bydd angen cael prawf meddygol.

Mae gennym hefyd ychydig o wirfoddolwyr sy'n barod i yrru sefydliadau/unigolion/grwpiau.

Os hoffech logi ein cludiant, cysylltwch â Rod neu Anne ar: 01559 362403.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, danfonwch e-bost at Sharen neu ffoniwch 07856747856.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.