Kidwelly Town Council Logo
Menu
pagetitle

Cwrs Rasio Ffos Las

Mae Cwrs Rasio Ffos Las yn gwrs rasio ceffylau ac yn lleoliad ar gyfer digwyddiadau a chynadleddau, yn lleoliad arbennig ar gyfer digwyddiadau corfforaethol, priodasau, derbyniadau, cyngherddau ac achlysuron eraill.
Fe'i lleolir mewn 600 cyfer o ardal wledig brydferth yn Sir Gaerfyrddin gyda golygfeydd godidog ar draws Gardd Cymru.

O'i bodolaeth fel y gwaith glo brig mwyaf yn Ewrop mae ei thrawsnewidiad yn eithriadol. Ceir hyd i ardaloedd cadwraeth, ffermydd solar, llynnoedd prydferth, llwybrau ceffyl, y blanhigfa goed sy'n coffau'r Jiwbilî Ddiemwnt ynghyd â'r cwrs rasio ceffylau.

Hwn yw'r cwrs rasio cyntaf i gael ei agor yn y Deyrnas Gyfunol am 80 mlynedd, mae'r cwrs yn cynnig arwynebedd rasio cystal ag unrhyw gwrs arall, gyda'r budd o gael system draeniad a dyfrhad crefftus er mwyn darparu wyneb rasio heb ei ail a golygfeydd gwylio di-dor o'r cwrs.

Agorwyd y cwrs gan "lais rasio ceffylau", Peter O’Sullevan; fe'i hymwelwyd gan EM Dywysog Cymru fel rhan o Jiwbilî Ddiemwnt EM y Frenhines Elizabeth II, ac agorwyd yr eisteddle gan yr arwr rygbi lleol, Jonathan Davies. Mae cysylltiadau cryf gyda Jonathan i'r lleoliad gan ei fod yn frodor o bentref Trimsaran ac wedi gweithio yn y gwaith glo brig.

Ffôn: 01554 811092
E-bost: info@ffoslasracecourse.com
Gwefan: https://www.ffoslas-racecourse.co.uk/

Cyfeiriad / Lleoliad:
Cwrs Rasio Ffos Las, Trimsaran, Sir Gaerfyrddin SA17 4DE

Noder:
Tra gwneir pob ymgais i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a geir ar y dudalen hon, nid yw Cyngor Tref Cydweli yn cymryd cyfrifoldeb ar gyfer cyflawnder, cywirdeb neu fudd y wybodaeth a geir yma.

Ydych chi wedi sylwi ar gamgymeriad?
Rhowch wybod i ni:

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.