Kidwelly Town Council Logo
Menu

Cyfarfodydd y Cyngor

Ceir hyd i holl agendâu cyfarfodydd y Cyngor Tref fan hyn cyn iddynt gael eu cynnal.

Cynhelir yr holl gyfarfodydd yn Siambr y Cyngor, Hillfield Villas, Cydweli. 

Cyhoeddir y cofnodion ar y wefan unwaith y'u cytunwyd. 


Amserlen Cyfarfodydd y Cyngor 2022

Dilynwch y ddolen hon i lwytho Amserlen Cyfarfodydd y Cyngor 2022 i lawr i'ch cyfrifiadur neu ddyfais


Agendâu a Chofnodion

Cyfarfod Llawn y Cyngor
Mae Cyfarfodydd Llawn y Cyngor yn rhwym i ofynion Rheolau Sefydlog a Rheoliadau Ariannol y Cyngor, oni bai y penderfynir fel arall gan y Cyngor Tref.
Cliciwch fan hyn ar gyfer agendâu, gwybodaeth a chofnodion cyfarfodydd

Pwyllgor Polisïau a Datblygu Cymunedol
Ym mis Gorffennaf 2021 ailenwyd y Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau er mwyn cyfleu gorchwyl y pwyllgor yn well. 
Cliciwch fan hyn ar gyfer agendâu, gwybodaeth a chofnodion cyfarfodydd

Pwyllgor Ystadau
Ystyrir a phenderfynir ar faterion yn ymwneud ag Ystâd y Cyngor Tref yn ystod y Pwyllgor Ystadau.
Cliciwch fan hyn ar gyfer agendâu, gwybodaeth a chofnodion cyfarfodydd

Pwyllgor Cyllid
Trefnir gweinyddiaeth briodol materion ariannol y Cyngor yn unol â Rheoliadau Ariannol y Cyngor yn ystod y Pwyllgor Cyllid.
Cliciwch fan hyn ar gyfer agendâu, gwybodaeth a chofnodion cyfarfodydd

Pwyllgor Polisiau ac Adnoddau
Ym mlwyddyn faerol 2019 - 2020 unwyd y pwyllgorau Pwrpasau Cyffredinol a Pholisi a Strategaeth. Fis Gorffennaf 2021 fe'i hailenwyd i'r Pwyllgor Polisïau a Datblygu Cymunedol.
Cliciwch fan hyn ar gyfer agendâu, gwybodaeth a chofnodion cyfarfodydd

Pwyllgor Polisi a Strategaeth
Ystyrir yr holl faterion yn ymwneud â Pholisïau a Threfniadaeth y Cyngor yn ystod y Pwyllgor Polisi a Strategaeth.  Yn 2019 ail-ddynodwyd y pwyllgor yma fel y Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau.
Cliciwch fan hyn ar gyfer agendâu, gwybodaeth a chofnodion cyfarfodydd

Pwyllgor Pwrpasau Cyffredinol
Ystyrir holl faterion na drafodir gan unrhyw bwyllgor arall yn ystod Pwyllgor Pwrpasau Cyffredinol.  Yn 2019 ail-ddynodwyd y pwyllgor yma fel y Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau.
Cliciwch fan hyn ar gyfer agendâu, gwybodaeth a chofnodion cyfarfodydd

Cyfarfod Pennu'r Gyllideb
Pwyllgor Cyllid arbennig yw Cyfarfod Pennu'r Gyllideb i ystyried y gyllideb flynyddol arfaethedig. 
Cliciwch fan hyn ar gyfer agendâu, gwybodaeth a chofnodion cyfarfodydd

Cyfarfodydd Neilltuol
Dan amgylchiadau arbennig neu brys, gelwir Cyfarfod Llawn Neilltuol. 
Cliciwch fan hyn ar gyfer agendâu, gwybodaeth a chofnodion cyfarfodydd

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.