Kidwelly Town Council Logo
Menu

Cyfyngiadau Lleol Ardal Llanelli - adolygiad ar ôl pythefnos

Heddiw yw'r adolygiad cyntaf o'r cyfyngiadau Covid-19 lleol a roddwyd ar waith ddydd Gwener, 25 Medi, sy'n effeithio ar bobl yn y rhan helaeth o Lanelli.

Mae nifer yr achosion positif yn yr 'ardal diogelu iechyd' yn dal i fod deirgwaith yn uwch na rhannau eraill o'r sir, ond mae'n ymddangos bod y camau y mae preswylwyr yn eu cymryd yn gwneud gwahaniaeth.

Er bod yr arwyddion yn galonogol, bydd angen i'r cyfyngiadau yn ardal Llanelli barhau am o leiaf wythnos arall er mwyn sicrhau bod modd parhau i reoli lledaeniad yr haint.

Caiff y sefyllfa ei hadolygu'n wythnosol, a bydd ffigurau a phenderfyniadau'n cael eu cyhoeddi bob prynhawn Gwener.

Mae gweddill Sir Gaerfyrddin yn parhau i gael ei fonitro a gofynnir i'r holl breswylwyr barhau i ddilyn y canllawiau cenedlaethol i sicrhau nad yw cyfyngiadau symud yn cael eu cyflwyno yn y sir gyfan.

Mae pawb yn cael eu hannog i barhau i gadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo, gwisgo gorchudd wyneb dan do - a hefyd yn yr awyr agored lle na allant gadw dau fetr ar wahân - hunanynysu a chael prawf os ydynt yn cael symptomau Covid-19 gan gynnwys peswch parhaus newydd, gwres uchel, neu golli synnwyr blas ac arogl.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.