Kidwelly Town Council Logo
Menu

Cyfyngiadau Lleol Newydd - Ardal Llanelli - Neges oddi wrth Gyngor Sir Gâr

Fel y gwyddoch o bosib, mae cynnydd mewn achosion positif o Covid-19 yn Sir Gaerfyrddin, wedi'i ganoli yn ardal Llanelli ac mae hynny’n destun pryder.

Rydym wedi cynnal trafodaethau hir â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac rydym wedi gwneud penderfyniad ar y cyd y prynhawn yma i gyflwyno cyfyngiadau newydd ar gyfer rhan fawr o ardal Llanelli fel rhan o'n hymdrechion i atal y feirws rhag lledaenu.

Rydym wrthi'n cyfathrebu â thrigolion yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt ac yn siarad yn bersonol ag Aelodau lleol i roi cymaint o wybodaeth ag y gallwn.

Mae'n bwysig iawn bod ein negeseuon ar hyn yn glir, felly byddem yn ddiolchgar pe baech yn rhannu gwybodaeth o'n gwefan a'n ffrydiau cyfryngau cymdeithasol fel ffynhonnell swyddogol.

Yn ogystal ag amlinellu'r cyfyngiadau lleol newydd, rydym yn datblygu ystod o gwestiynau cyffredin a byddwn yn ychwanegu at y rhain dros y dyddiau nesaf felly cofiwch edrych am y diweddariadau.

Fel bob amser, diolch am eich cydweithrediad ac am ein helpu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'n cymunedau.


Y cyfyngiadau Newydd ar gyfer ardal Llanelli o Ddydd Sadwrn, 26 Medi, 2020 am 6pm yw:

• ni chaniateir i bobl fynd i mewn i ardal ddiffiniedig Llanelli na'i gadael heb esgus rhesymol
• ni fydd pobl mwyach yn gallu ffurfio, na bod yn rhan, o aelwyd estynedig (gelwir hyn weithiau yn 'swigen' deuluol)
• mae hyn yn golygu ar hyn o bryd, ni chaniateir cyfarfod dan do gydag unrhyw un nad yw'n rhan o'ch aelwyd (pobl rydych chi'n byw gyda nhw), oni bai fod gennych reswm da, megis darparu gofal i berson sy'n agored i niwed
• rhaid i bob safle trwyddedig roi'r gorau i weini alcohol am 10pm a bydd yn rhaid iddo gau am 10.20pm
• rhaid i bobl weithio gartref lle bynnag y bo modd

Y wardiau penodol sy'n rhan o'r ardal ddiffiniedig yn Llanelli yw:
• Bigyn
• Bynea
• Dafen
• Elli
• Felin-foel
• Glanymôr
• Yr Hendy
• Hengoed
• Llangennech
• Lliedi
• Llwynhendy
• Tyisha
• Dyffryn y Swistir

Gall pobl gael cadarnhad a ydynt yn byw yn un o'r ardaloedd lle mae'r cyfyngiadau hyn drwy fynd i www.sirgar.llyw.cymru a rhoi eu cod post.

Byddwch hefyd yn gallu dod o hyd i atebion i restr gynhwysfawr o gwestiynau cyffredin ar y wefan.

Profi
Mae uned brofi symudol wedi cael ei chreu yn Llanelli i reoli'r galw cynyddol. Mae capasiti cynyddol ar gyfer profi trigolion Llanelli ar gael drwy apwyntiad yn y lleoliadau canlynol:

• Maes Parcio B Parc y Scarlets, y gellir ei gyrraedd drwy Barc Adwerthu Trostre yn Llanelli
• Safle Tŷ'r Nant (wrth ymyl KFC), Trostre, Llanelli
• Maes Sioe Caerfyrddin (arwyddion o'r ddau gyfeiriad oddi ar yr A40)

Ni ddylai fod rheswm gan drigolion Llanelli i deithio'n bell i gael prawf, gan y bydd profion ar gael yn Llanelli a Chaerfyrddin.

Dylid trefnu profion drwy'r UK Portal. Os oes unrhyw drigolion yn Llanelli yn cael anhawster trefnu prawf yn lleol drwy'r UK Portal, gallant e-bostio covidenquiries.hdd@wales.nhs.uk neu ffonio 0300 333 2222.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth ynghylch profi yn ardal Llanelli

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.