Kidwelly Town Council Logo
Menu

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydu - COVID-19 Cymorth i gyflogwyr – gweminarau byw

Annwyl gwsmer,

Mae newidiadau i Gynllun Cadw Swyddi Coronafeirws o 1 Medi ymlaen yn golygu y bydd angen i gyflogwyr ariannu 10% o gyflogau arferol cyflogeion ar ffyrlo am yr oriau nad ydynt yn gweithio ac yn parhau i dalu eu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a phensiwn.

Gwnewch yn siŵr bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf drwy ymuno â'r gweminar fyw:

Estyniad i Gynllun Cadw Swyddi Coronafeirws a chynllun ffyrlo hyblyg

Byddwn yn rhoi trosolwg o'r cynllun, gan gynnwys cynllun ffyrlo hyblyg, enghreifftiau o sut i amcangyfrif y swm y gallwch ei hawlio a'r newidiadau ar gyfer mis Medi a mis Hydref.

Byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth am y Bonws Cadw Swyddi, gan gynnwys sut i wybod a ydych yn gymwys.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn dewis dyddiad ac amser

Os nad ydych wedi gallu ymuno â'n gweminar poblogaidd am Gynllun Ad-dalu Cyflog Salwch Statudol Coronafeirws (COVID-19), mae mwy o ddyddiadau wedi'u hychwanegu erbyn hyn. Dewch o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am:
• pwy all hawlio
• pwy y gallwch wneud cais ar eu rhan
• sut i wneud hawliad
• yr hyn y gallai fod yn ddyledus i chi, a rhagor.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn dewis dyddiad ac amser

Gallwch ofyn cwestiynau yn ystod ein holl weminarau byw gan ddefnyddio'r blwch testun ar y sgrin.
Mae ein gweminarau'n cael eu diweddaru'n gyson i ddarparu canllawiau diweddaraf y llywodraeth ar newidiadau wrth iddynt ddatblygu.

Yn gywir

Jim Harra
Prif Weithredwr a'r Ysgrifennydd Parhaol - Cyllid a Thollau EM

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.