Kidwelly Town Council Logo
Menu
pagetitle

Cymdeithas Rhandiroedd Cydweli

Lleolir tir Cymdeithas Rhandiroedd Cydweli ar Gae Maliphant, cae y tu ôl i Heol Fair. Gall aelodau rentu hanner llain neu leiniau llawn yn flynyddol.

Cymeradwyir ceisiadau aelodaeth gan y pwyllgor. Os hoffech ddod yn aelod, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch ag ysgrifennydd y Gymdeithas Rhandiroedd.

Cysylltiadau allweddol:

Cadeirydd: Jeanette Banner

Ysgrifennydd: Margaret Birch Ffôn: 01554 891404; E-bost: Mbirch1955@gmail.com

Hanes

Crëwyd Cymdeithas Rhandiroedd Cydweli yn 2005, pan gyflwynodd nifer o drigolion lleol gais at y Cyngor Tref i ddarparu safle rhandiroedd yng Nghydweli. Arwyddwyd cytundeb prydles rhwng y Gymdeithas a'r Cyngor Tref ar gyfer meddiannaeth Cae Maliphant. I gychwyn, roedd darpariaeth ar gyfer ugain rhandir ar y safle, gyda phob llain oddeutu 75m2 o arwynebedd. Ers hynny, mae'r aelodaeth wedi cynyddu'n fawr oherwydd y galw am leiniau llawn a hanner lleiniau.

 

Cofnodion cyfarfod Aelodau Cymdeithas Rhandiroedd Cydweli

Hydref 2016

E-bost: mbirch1955@gmail.com

Noder:
Tra gwneir pob ymgais i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a geir ar y dudalen hon, nid yw Cyngor Tref Cydweli yn cymryd cyfrifoldeb ar gyfer cyflawnder, cywirdeb neu fudd y wybodaeth a geir yma.

Ydych chi wedi sylwi ar gamgymeriad?
Rhowch wybod i ni:

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.