Kidwelly Town Council Logo
Menu

Cyngor Tref Cydweli yn cydymdeimlo gyda'r teulu brenhinol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines

Mae'r Maer, y Cyng. Carl Peters-Bond a Chyngor Tref Cydweli yn cydymdeimlo gyda'r teulu brenhinol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines.

Fel arwydd o barch, mae baneri wedi cael eu gostwng i hanner mast yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin; Neuadd y Dref, Llanelli a Neuadd y Dref, Rhydaman. Mae baneri glas hefyd wedi cael eu gostwng ar Draeth Cefn Sidan a Thraeth Pentywyn.

Bydd Llyfrau Cydymdeimlo ar gael yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin; Neuadd y Dref, Llanelli a’r HWB yn Rhydaman o ddydd Llun, 12 Medi. Bydd modd ysgrifennu ynddynt rhwng 9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 9am-4.30pm ddydd Gwener, a gellir gwneud hynny hyd at y diwrnod wedi'r angladd.

Mae croeso i aelodau o'r cyhoedd adael neges o gydymdeimlad, neu adael neges yn yr e-Lyfr Cydymdeimlo cenedlaethol ar wefan Palas Buckingham.

Yn unol â digwyddiadau cenedlaethol, caiff Proclamasiwn ar gyfer y Brenin newydd ei ddarllen gan y Cynghorydd Rob Evans ar risiau Neuadd y Sir, Caerfyrddin, dyddiad i’w gadarnhau.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.