Cysylltir Cydweli gyda Llanelli a Chaerfyrddin gyda Ffordd yr A484.
Mae bysiau lleol yn teithio drwy Gydweli yn cysylltu’r dref gyda Llanelli a Chaerfyrddin, gyda’r prif arhosfan yng nghanol y dref.
Mae rheilffordd Cydweli ar linell gorllewin Cymru. Mae gwasanaethau sy’n mynd i gyfeiriad y gorllewin o Gydweli yn terfynu yng Nghaerfyrddin neu yn Noc Penfro, gyda gwasanaethau uniongyrchol llai arferol i Abergwaun ac Aberdaugleddau. Mae gwasanaethau i gyfeiriad y dwyrain yn terfynu yng ngorsaf rheilffordd Abertawe neu Gaerdydd (Canolog), gyda gwasanaethau uniongyrchol llai arferol i Fanceinion (Manchester Piccadilly) a Llundain (London Paddington).
Cysylltir Cydweli gyda Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar hyd yr arfordir gyda llwybr RhBC 4. Mae’r llwybr beicio yn rhedeg drwy ganol y dref.
Mae Maes Awyr Pen-bre rhyw 3 milltir (4.8km) I’r dwyrain o Gydweli. Y maes awyr agosaf sy’n cynnig hediadau domestig a rhyngwladol yw Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.
Mae nifer o lwybrau cyhoeddus a llwybrau ceffyl yng Nghydweli a Mynydd y Garreg, gan gynnwys Glan yr Afon, tu cefn i’r Capel Wesleaidd (Eglwys Fethodistaidd Trinity) ar y bont a Maes yr Haf yn Heol Ddŵr.
Fel rhan o brosiect ar y cyd gyda Pharc Rhanbarthol y Cymoedd a Chyngor Sir Gâr, comisiynwyd Ridler | Webster i greu pecyn o daflenni i gerddwyr o amgylch Cydweli.
Cliciwch ar y dolenni canlynol i gael gweld: