Kidwelly Town Council Logo
Menu

Diweddaraiad Coronafeirws Llwyodraeth Cymru 17 Gorffennaf 2020

Penawdau Newyddion

Meysydd chwarae, ffeiriau a chanolfannau cymunedol yn cael ailagor

Bydd meysydd chwarae, ffeiriau a chanolfannau cymunedol yng Nghymru’n cael ailagor ddydd Llun, cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor


Canllawiau newydd i gefnogi dychwelyd i’r ysgol ym mis Medi

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau diwygiedig i gefnogi ysgolion, cyn i’r holl ddisgyblion ddychwelyd ym mis Medi

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor


Cyhoeddi strategaeth brofi newydd Cymru ar gyfer COVID-19

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi strategaeth brofi newydd Cymru ar gyfer y coronafeirws.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor


Gwarchod yng Nghymru i ddod i ben am y tro o 16 Awst

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Frank Atherton wedi cadarnhau na fydd angen i bobl yng Nghymru y gofynnwyd iddynt warchod eu hunain wneud hynny bellach ar ol 16 Awst.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor


Y Gweinidog Cyllid yn cyhoeddi gostyngiad dros dro yn y dreth ar brynu tŷ

Ni fydd pobl sy’n prynu eu prif gartref yng Nghymru sy’n costio llai na £250,000 yn gorfod talu treth o gwbl, yn sgil mesurau dros dro a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor


Rhaid i bawb sy’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru wisgo gorchudd wyneb

Bydd yn orfodol i bawb sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru wisgo gorchudd wyneb o ddydd Llun 27 Gorffennaf, mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor


Gwersi gyrru i ailddechrau yng Nghymru ar 27 Gorffennaf

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y caiff gwersi gyrru yng Nghymru ailddechrau ar 27 Gorffennaf.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor


Cyhoeddi £9 miliwn i helpu canol trefi i ddod at eu hunain wedi’r Coronafeirws

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £9 miliwn ar gael i helpu canol trefi ddod at ei hunain wedi’r Coronafeirws.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor


Ymweld ag ysbytai yn ystod pandemig y coronafeirws: canllawiau – Gorffennaf 2020

“Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth inni ailosod y cloc” – Y Gweinidog yn esbonio polisi cynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer byd ar ôl COVID
Cadw’r newidiadau adeiladol a ddaeth yn sgil pandemig y coronafeirws yw byrdwn canolog polisi cynllunio newydd Llywodraeth Cymru.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor


Profi, olrhain, diogelu: gwybodaeth amlieithog am y coronafeirws

Gwybodaeth amlieithog am symptomau’r coronafeirws, profi am y coronafeirws ag olrhain cysylltiadau.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor


Pecyn Cymorth Busnes Cymru

Adnoddau ymarferol i helpu cyflogwyr i gadw eu gweithwyr yn ddiogel yn y gweithle.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor


Astudiaeth Symptomau COVID

Helpwch ni i ymladd coronafeirws trwy adrodd ar eich iechyd yn ddyddiol, hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iawn.

Gallwch chi helpu’r GIG yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws drwy gwblhau arolwg iechyd dyddiol ar yr ap Astudiaeth Symptomau COVID.

Dilynwch y ddolen er mwyn ymweld â gwefan yr ap.

Mae’r ap hwn yn addas ar gyfer pawb, nid i’r unigolion sydd â symptomau yn unig.

Bydd yr app yn ein helpu i ddeall symptomau a lledaeniad COVID-19. Drwy ateb rhai cwestiynau cyflym, gallwch chi ein helpu i gynllunio ein hymateb i coronafeirws.

Ni fyddwn yn rhannu eich atebion y tu hwnt i’r GIG a sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt sy’n gweithio’n uniongyrchol â’r GIG i ymateb i’r coronafeirws.


Profi, olrhain a diogelu

Mae ymgyrch ar y gweill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr allweddol o strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu Llywodraeth Cymru. Mae'r wybodaeth ddiweddara am y strategaeth, gan gynnwys canllawiau i gyflogwyr, ar y wefan. (https://gov.wales/test-trace-protect-coronavirus).Mae deunydd fideo wedi cynhyrchu i ddefnyddio mewn ymgyrchoedd ac i rhanddeiliaid rhannu ar ei sianelu. Mae modd i chi lawrlwytho'r deunydd digidol fan hyn (drwy ddilyn y ddolen hon) a byddem yn gwerthfawrogi os fyddech yn rhannu ar eich sianelu cymdeithasol, er mwyn rhannu gwybodaeth am y strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu.

 

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.