Diweddaraiad Coronafeirws Llywodraeth Cymru 12fed Chwefror2021
Diogelu Cymru
• aros gartref
• cyfarfod pobl yr ydych yn byw gydanhw yn unig
• cadw pellter cymdeithasol
• golchwch eich dwylo'n rheolaidd
• gweithiwch o gartref os gallwch
Mae Cymru oll ar lefel rhybudd 4
Penawdau Newyddion
Cyflawni carreg filltir fawr gyntaf y rhaglen frechu
Roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn llawn canmoliaeth am ymdrech aruthrol y miloedd o staff a gwirfoddolwyr yn y GIG sydd wedi bod yn rhoi’r brechlynnau, wrth inni gyrraedd carreg filltir gyntaf rhaglen frechu Cymru. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Cymorth ychwanegol o £29 miliwn i fyfyrwyr addysg bellach
Bydd y cyllid yn canolbwyntio ar helpu myfyrwyr AB i gwblhau eu cymwysterau galwedigaethol yr haf hwn. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
£9.8 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ystod y coronafeirws
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £9.8 miliwn ychwanegol i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd y cyllid yn dileu rhwystrau i addysg i blant a phobl ifanc oherwydd Covid-19. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
£8.9 miliwn pellach i gefnogi gweithwyr llawrydd y sector creadigol
Cyhoeddodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth y bydd gweithwyr llawrydd yn y sector creadigol yng Nghymru yn cael dyraniad ychwanegol o £8.9 miliwn. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Masnachfraint rheilffyrdd Cymru nawr yn eiddo i’r cyhoedd
Mae Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo masnachfraint Cymru a’r Gororau i ddwylo cyhoeddus er mwyn diogelu gwasanaethau, gwarchod swyddi a gwella seilwaith yng ngoleuni heriau di-dor y coronafeirws. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
“Rydym wedi cyflawni dros Gymru a byddwn yn parhau i wneud hynny” – y Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei haddewidion allweddol i bobl Cymru, a hynny yn ystod un o’r cyfnodau anoddaf i lywodraethu ynddo yn ein hanes modern, meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Cymeradwyo bil i reoli etholiad y Senedd yn ystod y pandemig COVID
Mae Aelodau o’r Senedd wedi cymeradwyo bil brys i sicrhau y gall etholiad nesaf y Senedd ddigwydd yn ddiogel, er gwaetha’r ffaith bod pandemig y coronafeirws yn parhau. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Ymunwch â ni, a byddwch yn rhan o’r ateb i’r broblem. Cymerwch y brechlyn ac anogwch eraill yn eich cymunedau i wneud hynny hefyd
Neges Vaughan Gething a Jane Hutt i Gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Y menywod yng Nghymru sy’n arwain y frwydr yn erbyn Covid
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, tynnodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip Jane Hutt sylw at rai o'r menywod anhygoel sy'n arwain y frwydr yn erbyn Covid yng Nghymru a phwysigrwydd astudio STEM. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Prosiectau arloesol sy'n helpu pobl i addasu eu bywydau oherwydd y coronafeirws
Mae cyfres newydd o apiau yn helpu oedolion ac unigolion bregus sydd ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau i addasu eu bywydau i ymateb i’r heriau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Ymunwch â ni, a byddwch yn rhan o’r ateb i’r broblem. Cymerwch y brechlyn ac anogwch eraill yn eich cymunedau i wneud hynny hefyd
Neges Vaughan Gething a Jane Hutt i Gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.