Kidwelly Town Council Logo
Menu

Diweddaraiad Coronafeirws Llywodraeth Cymru 12fed Mawrth 2021

Penawdau Newyddion

Aros yn lleol – Cymru yn cymryd y camau cyntaf i lacio’r cyfyngiadau symud

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi y bydd rheol interim i aros yn lleol yn cael ei chyflwyno o ddydd Sadwrn 13 Mawrth ymlaen yn lle’r cyfyngiadau aros gartref. Bydd y rheol hon yn rhan o becyn o fesurau i ddechrau ar broses raddol a phwyllog o lacio’r rheoliadau llym sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

£150 miliwn ychwanegol i gefnogi busnesau yng Nghymru

Mae £150 miliwn arall ar gael i gefnogi busnesau Cymru i ddelio ag effaith barhaus y coronafeirws. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Un filiwn o bobl wedi cael dos cyntaf y brechlyn

Mae un filiwn o bobl ar draws Cymru wedi cael o leiaf un dos o’r brechlyn rhag coronafeirws, sy’n golygu bod gan bron i 40% o’r boblogaeth sy’n oedolion bellach rywfaint o ddiogelwch rhag COVID-19. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Lansio ffurflen hunanatgyfeirio ar-lein i ofalwyr gael y brechlyn rhag COVID-19

Gofynnir i ofalwyr di-dâl, sydd heb ei gofrestru fel gofalwr di-dâl gyda'u meddyg teulu, i ddod ymlaen drwy lenwi ffurflen hunanatgyfeirio newydd ar-lein er mwyn cael eu brechlyn rhag COVID-19 fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

£72m yn ychwanegol i gefnogi dysgwyr wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol

Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi £72 miliwn arall i gefnogi dysgwyr fel rhan o'r ymateb i adfer a sicrhau cynnydd yn sgil y pandemig. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

£60m i barhau â’r gwaith o olrhain cysylltiadau dros yr haf

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi bod £50m arall yn cael ei neilltuo i ganiatáu i fyrddau iechyd barhau â’r gwaith o olrhain cysylltiadau dros yr haf. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

£18.7 miliwn er mwyn parhau â chymhellion i helpu i recriwtio mwy o brentisiaid

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £18.7 miliwn yn rhagor er mwyn ymestyn cymhellion i helpu busnesau i recriwtio prentisiaid yng Nghymru. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

£1.3m i sector bwyd môr Cymru i helpu i ddelio ag effeithiau Brexit a Covid

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd gwerth £1.3m i helpu sector pysgota a dyframaethu Cymru yn dilyn y ddau argyfwng i'w busnesau a achoswyd drwy adael yr UE a phandemig Covid-19. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Llywodraeth Cymru yn ymestyn mesurau i ddiogelu busnesau rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mehefin 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bydd busnesau manwerthu, lletygarwch a busnesau eraill y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio arnynt bellach yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan hyd ddiwedd mis Mehefin 2021. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Pobl sy’n ddigartref i gael eu blaenoriaethu ar gyfer brechlyn COVID

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd pobl sy’n ddigartref a phobl sydd wedi bod yn ddigartref yn ddiweddar yng Nghymru yn cael cynnig brechlyn COVID fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Etholiadau mis Mai 2021: Datganiad ar y cyd gan Lywodraeth cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban

Mae etholiadau diogel yn hanfodol i'n democratiaeth. Nawr, yn fwy nag erioed, mae gan bleidleiswyr yr hawl i gael eu clywed, a bwriedir cynnal etholiadau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ar 6 Mai 2021. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

 

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.