• Daeth cyfres o fesurau newydd i rym yn Sir Caerffili am 18:00 ddoe, mewn ymgais i leihau niferoedd yr achosion newydd o’r Coronafeirws.
Ni fydd pobl yn cael teithio i mewn nag allan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili oni bai fod ganddynt esgus rhesymol.
Mae’n rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn safleoedd dan do sydd ar agor i’r cyhoedd, megis siopau (yn ogystal ag ar gludiant cyhoeddus). Mae yna esemptiadau cyfyngedig ar gyfer pobl anabl a chyflyrau meddygol –mae’r rhain yr un fath a’r rhai ar gyfer cludiant cyhoeddus.
Dim ond yn yr awyr agored y caiff pobl gyfarfod – am y tro, ni all pobl gwrdd â phobl o aelwydydd eraill dan do. Ni all pobl ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd arall chwaith.
Canllaw Llywodraeth Cymru a chwestiynau cyffredin.
Datganiad i'r wasg Llywodraeth Cymru (Dydd Llun 7 Medi).
Gwyliwch friff i'r wasg y Gweinidog Iechyd ddoe yma a gwyliwch y Gweinidog Iechyd yn amlinellu rheolau cyfnod clo Caerffili mewn fideo ar gyfer y BBC yma.
• Ddoe, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd £1.3m i gefnogi pecyn o wasanaethau iechyd meddwl i bawb yng Nghymru - datganiad i'r wasg Llywodraeth Cymru.
• Cyhoeddwyd y crynodeb diweddaraf o gyngor COVID-19 a ddarparwyd i Weinidogion Cymru ddoe.
Cell Cyngor Technegol – crynodeb o gyngor 4 Awst 2020.
• Ddoe, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig mwy na £100miliwn o gyllid i gefnogi economi wledig Cymru.
Datganiad i'r wasg a datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru.
• Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ddatganiad am Ddiwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru), sy’n cynnwys diweddariad am newidiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n esempt o fesurau iechyd ar y ffin.
Mae’r Gweinidog Iechyd wedi penderfynu tynnu ynysoedd Santorini, Serifos a Tinos yng Ngroeg oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n esempt. Daeth y newidiadau yma i rym am 04:00 bore ‘ma.
Canllaw Llywodraeth Cymru ar deithwyr sy’n esempt rhag rheolau ffiniau Cymru: Coronafeirws (Covid-19).
• Mae gwybodaeth coronafeirws ar gyfer Cynghorau ar gael yma ar wefan CLlLC.
• Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi dangosfwrdd dyddiol o ddata am achosion coronafeirws ledled Cymru, fesul bwrdd iechyd ac ardal awdurdod lleol.
• Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn darparu diweddariad dyddiol sy’n canolbwyntio ar wybodaeth a diweddariadau iechyd cyhoeddus allweddol.
• Mae gwybodaeth am coronafeirws ar gael yma ar wefan Llywodraeth Cymru.
• Mae’r ddeddfwriaeth a basiwyd yng Nghymru mewn perthynas â’r pandemig coronafeirws ar gael yma.
• Mae gwybodaeth coronafeirws Llywodraeth y DU ar gyfer unigolion a busnesau yng Nghymru ar gael yma.