Kidwelly Town Council Logo
Menu

Diweddariad coronafeirws CLlLC 15/12/2020

Mesurau’r Coronafeirws yng Nghymru

• Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun newydd, Cynllun Rheoli’r Coronafeirws – Lefelau Rhybudd yng Nghymru. Mae’n egluro pedair lefel rybudd a’r mesurau fydd yn cael eu defnyddio i reoli’r risg.
 Mae Cymru ar hyn o bryd ar lefel rybudd tri – mae’r risg yn uchel iawn.
 Mae’r cynllun ar gael yma.
 Datganiad ysgrifenedig yma.

Busnesau, Swyddi a’r Economi

• Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi gwneud sylwadau ar Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw – datganiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru.
• Mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans wedi cadarnhau heddiw na fydd cynnydd yn ôl chwyddiant i ardrethi busnes yng Nghymru yn 2021-22 – datganiad i’r wasg a datganiad cabinet Llywodraeth Cymru.
• ‘I gefnogi cwmnïau drwy’r cyfnod heriol hwn’, mae Gweinidog yr Economi wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Allforio heddiw a fydd yn cynnig ‘cefnogaeth eang i allforwyr o Gymru i adfer ac ail-adeiladu.’

Brechlyn

• Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ddoe bod cynllun peilot i gyflwyno brechlyn COVID-19 Pfizer / BioNtech i gartrefi gofal yng Nghymru i gychwyn ’fory [dydd Mercher 16 Rhagfyr].
Datganiad i’r wasg a datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru.
 Gallwch wylio sesiwn briff i'r wasg ddoe gan Lywodraeth Cymru gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yma.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

• Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw: Trefniadau rhyddhau a hyd brigiadau o achosion o COVID-19 mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.

• Mae’r Prif Weinidog a chabinet Llywodraeth Cymru wedi galw ar bobl Cymru i gefnogi’r bedwaredd ymgyrch Great Winter Get Together i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, sy’n cychwyn yr wythnos hon – datganiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru.

Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Cynllunio Blynyddol GIG Cymru 2021-22 (wedi’i gyhoeddi ddoe).

Addysg, Plant a Phobl Ifanc

• Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau i gyflwyno profion cyfresol mewn ysgolion a cholegau o fis Ionawr ymlaen – datganiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru.

Ym mhle allwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf?

• Mae gwybodaeth coronafeirws ar gyfer Cynghorau ar gael yma ar wefan CLlLC.
• Mae CLlLC yn casglu arfer dda cynghorau yn ystod pandemig y coronafeirws yma.
• Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi dangosfwrdd dyddiol o ddata am achosion coronafeirws ledled Cymru, fesul bwrdd iechyd ac ardal awdurdod lleol.
• Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn darparu diweddariad dyddiol sy’n canolbwyntio ar wybodaeth a diweddariadau iechyd cyhoeddus allweddol.
• Mae gwybodaeth am coronafeirws ar gael yma ar wefan Llywodraeth Cymru.
• Mae’r ddeddfwriaeth a basiwyd yng Nghymru mewn perthynas â’r pandemig coronafeirws ar gael yma.
• Mae gwybodaeth coronafeirws Llywodraeth y DU ar gyfer unigolion a busnesau yng Nghymru ar gael yma.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.