Mae canol trefi Sir Gaerfyrddin paratoi i groesawu siopwyr yn ôl ar ôl iddynt fod ar gau ers misoedd oherwydd cyfyngiadau Covid-19.
Rydym wedi creu fideos ar gyfer ein tair prif dref i ddangos i drigolion ac ymwelwyr sut olwg sydd ar y trefi erbyn hyn ar ôl gosod yr arwyddion newydd.
Gan fod llawer o gynghorau tref a chymuned yn gweithio tuag at ailagor cyfleusterau, rydym yn rhannu ein pecyn cymorth cadw pellter cymdeithasol a allai fod yn ddefnyddiol i'r rheiny sy'n bwriadu ailagor neuaddau cymunedol.
Mae canolfannau cymunedol, neuaddau pentref, a chyfleusterau cymunedol amlddefnydd eraill yn cefnogi ystod eang o weithgarwch lleol. Fodd bynnag, mae eu natur gymunedol hefyd yn eu gwneud yn lleoedd sy'n agored i ledaeniad coronafeirws (COVID-19).
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i gynorthwyo canolfannau cymunedol i ailddechrau.
Bydd y canllawiau ar gyfer y rheiny sy'n rheoli cyfleusterau cymunedol amlddefnydd i baratoi ar gyfer eu hailagor. Bydd yn cyfeirio at ganllawiau perthnasol ynghylch ystod o wahanol weithgareddau sy'n gallu digwydd yn y lleoliadau hyn.
Yn y cyfamser, rydym wedi llunio canllawiau ychwanegol i'ch helpu i ddefnyddio dull 5 cam o ailagor, yn ogystal ag adran cwestiynau cyffredin i ateb unrhyw bryderon sydd gennych.
Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r wybodaeth hon. Rhowch wybod i ni os oes unrhyw beth yr hoffech i ni ei ychwanegu at ein gwefan. Os oes angen rhagor o gymorth neu arweiniad arnoch ynghylch arwyddion, mae croeso i chi anfon neges e-bost at marketingandmedia@sirgar.gov.uk
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen newyddion Llywodraeth Cymru
Mae gennym gymorth a chanllawiau ar eich cyfer os ydych yn gweithio ar ailagor eich cyfleusterau cyhoeddus.
Os hoffech weld copi o’n harferion diogelu ac asesu risg, e-bostiwch ni: marketingandmedia@sirgar.gov.uk
Hefyd ceir canllawiau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu toiledau mwy diogel at ddefnydd y cyhoedd yn ystod y Coronafeirws. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys egwyddorion a chamau i berchnogion a gweithredwyr toiledau cyhoeddus eu hystyried wrth gynllunio ailagor a rheoli toiledau mor ddiogel â phosibl.
Bydd lleoedd chwarae sy'n eiddo i'r Cyngor yn dechrau ailagor yr wythnos nesaf ar ôl bod ar gau am fisoedd oherwydd y pandemig coronafeirws.
Bydd y safleoedd yn cael eu hagor yn raddol a bydd Parc Gwledig Pen-bre, Doc y Gogledd yn Llanelli a Llyn Llech Owain yn agor ddydd Llun yn dilyn llacio cyfyngiadau Covid-19. Bydd y ddau le chwarae ym Mharc Howard yn agor ddydd Mawrth.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog defnyddwyr i ymddwyn yn gyfrifol, ac yn unol â'r mesurau cyfredol o ran cadw pellter cymdeithasol.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Yr wythnos diwethaf, lansiodd Croeso Cymru ei Addewid i Gymru. Y nod yw gofyn i bawb wneud y canlynol wrth archwilio Cymru:
• Gofalu am ein gilydd
• Gofalu am ein gwlad
• Gofalu am ein cymunedau
Gallwch wneud eich addewid i Gymru a chael rhagor o wybodaeth ar wefan Croeso Cymru.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn ymweld â gwefan Croeso Cymru