Kidwelly Town Council Logo
Menu

Diweddariad i gynghorau tref a chymuned oddi wrth Gyngor Sir Gar 18/09/2020

Cyngor ar fesurau Covid-19

Mae'n siŵr eich bod yn gwybod bod llawer o gyngor, atebion i gwestiynau cyffredin a dolenni i'r ddeddfwriaeth lawn ar wefannau Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Un o'r prif faterion sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar, lle mae angen atgyfnerthu'r neges, yw'r neges ynghylch pobl yn ymgynnull a digwyddiadau dan do.

Y rheol gyffredinol yw na allwch gwrdd yn gymdeithasol dan do â phobl nad ydynt yn eich aelwyd neu'ch aelwyd estynedig. Yn ogystal, o 14 Medi, mae'n rhaid cyfyngu ar y nifer a fydd yn cwrdd o dan do i 6 pherson (heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) hyd yn oed o fewn eich aelwyd estynedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol mewn mannau fel tafarndai a bwytai ynghyd â chartrefi pobl.

Wrth gwrs, mae llawer o Gynghorau Tref a Chymuned yn rheoli ac yn berchen ar leoliadau cymdeithasol fel clybiau chwaraeon a neuaddau cymunedol, ac mae'n bwysig iawn bod pobl yn cael cyngor priodol ynghylch ailagor y safleoedd hyn a chyn ceisio trefnu digwyddiad yn un o'ch lleoliadau. Mae’r gyfraith yng Nghymru yn gosod cyfyngiadau ar bobl yn ymgynnull o dan do gydag eraill heb esgus rhesymol ac mae hyn fel arfer yn golygu y dylai unrhyw weithgareddau sy'n cael eu cynnal yn eich lleoliadau gael esgus rhesymol dros wneud hynny.

Ni chaniateir i chi drefnu cwrdd â phobl y tu allan i'ch aelwyd neu'ch aelwyd estynedig i fynd i rywle dan do, megis siopau, caffis, bwytai, bariau neu dafarndai. Yn yr un modd, ni ddylech drefnu i blant fynd i fannau dan do gyda’i gilydd, fel sinemâu neu arcedau difyrrwch, os nad ydynt yn rhan o’r un aelwyd neu aelwyd estynedig.

Er bod cynulliadau o hyd at 30 o bobl yn cael eu caniatáu yn yr awyr agored, dylai oedolion a phlant barhau i gadw pellter cymdeithasol oddi wrth bobl nad ydynt yn eu haelwyd, neu eu haelwyd estynedig, lle bynnag ag y bo modd.
Gweler: https://llyw.cymru/canllawiau-ar-adael-eich-cartref-gweld-pobl-eraill-coronafeirws

Rydych mewn sefyllfa dda iawn fel arweinwyr cymunedol i sicrhau bod y neges hon yn glir.

Efallai eich bod wedi gweld yn y cyfryngau bod ein swyddogion yn ymweld â lleoliadau ledled Sir Gaerfyrddin i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â mesurau Covid-19. Er eu bod yn hapus i helpu lle bynnag y gallant drwy gynnig cyngor a gwybodaeth, cyfrifoldeb y person sy'n gyfrifol am y safle yw sicrhau ei fod yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth a bod popeth mewn trefn. Fel yr uchod, mae ystod o ffynonellau gwybodaeth ar wefannau Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Sir.

Yn olaf, mae llawer ohonom fel arfer yn helpu i drefnu digwyddiadau cymunedol ar yr adeg hon o'r flwyddyn, cyn tymor y gaeaf. Yn Llanelli, rydym eisoes wedi gwneud penderfyniad i ganslo'r Carnifal Nadolig blynyddol - roedd hwn yn benderfyniad anodd, ond yr un cywir. Rwy'n siŵr y byddwch yn gweithredu'n ofalus, gan roi sylw i gyngor Llywodraeth Cymru ar ledaeniad y feirws yn y gymuned drwy gynulliadau mawr o bobl.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.