Kidwelly Town Council Logo
Menu

Diweddariad yn sgil Llifogydd diweddar Cydweli oddi wrth y Cynghorydd Sir Jeanette Gilasbey

Diweddariad yn sgil Llifogydd diweddar Cydweli oddi wrth Cyngor Sir Gaerfyrddin

Gwaith a wnaed o ganlyniad i'r digwyddiadau llifogydd ym mis Hydref 2021.
Mewn ymateb i'r problemau llifogydd a gafwyd yn dilyn dau gyfnod o law trwm a ddigwyddodd ar 4ydd a'r 20fed Hydref 2021, pan gwympodd gwerth diwrnod o law arferol yr hydref/gaeaf o fewn rhai oriau, mae'r Cyngor wedi ymgymryd â'r gwaith canlynol:
Mae'r holl gwteri yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt wedi'u harchwilio a'u gwacau/clirio fel sy'n briodol.  Yr ardaloedd a effeithiwyd arnynt fwyaf oedd Heol y Fferi, Stryd Newydd, Stryd y Bont, Clos yr Helyg, Ger y Castell a Ger y Gwendraeth. Mae'r rhaglen o lanhau'r cwteri ychwanegol o amgylch y dref yn parhau, ond mae'r mannau problemus wedi'u cwblhau.
Mae gwaith Clos yr Helyg, Parc Pendre, yn dal i barhau er mwyn agor ffosydd y tu ôl i'r ffordd bengaead (cul-de-sac) i gynorthwyo draenio.  Mae'r brif bibell gludo sy'n rhedeg ar hyd asgwrn cefn Parc Pendre wedi'i glanhau.
Grid a chwrs dŵr Cae Ffynnon: - mae'r grid wedi'i lanhau ar ôl y ddwy storm. Tynnwyd cryn dipyn allan ar y ddau achlysur. Ailosodwyd rhannau o fanc chwith y cwrs dŵr yn groes i'r llif o'r grid i gadw'r dŵr o fewn y cwrs dŵr.
Heol y Fferi/Cae Ffynnon: - mae ymchwiliadau'n parhau i edrych ar brif achos y llifogydd a gafwyd. Mae'r Cyngor wedi cynnal rhai ymchwiliadau cychwynnol.  Rydym yn trafod gydag ymgynghorydd arbenigol i gynnal astudiaeth fanwl o'r dalgylch a'i nodweddion er mwyn ein hysbysu o unrhyw ymyriadau a fyddai'n hyfyw, yn briodol ac yn ymarferol yn y dyfodol.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.