Kidwelly Town Council Logo
Menu

DWEUD DY DDWEUD - Lleisiwch eich barn

Mae Cyngor Tref Cydweli yn falch o ymuno â Llywodraeth Cymru i alw ar ragor o bobl ledled Cymru i gofleidio democratiaeth a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed. 

Rydym ni i gyd am weld newid cadarnhaol yng Nghymru. Ond, er mwyn i ddemocratiaeth yng Nghymru weithio i bawb, mae angen i fwy o bobl gymryd rhan.

Ac er nad oes pwrpas cwyno wrth eich ci am y sbwriel yn y stryd – ac er nad yw achwyn o flaen eich cyfrifiadur yn mynd i gynyddu cyfleoedd gwaith yn lleol – mae digon o bethau cadarnhaol y gellir eu gwneud a fydd yn gwneud gwahaniaeth.

O bleidleisio yn etholiadau’r Senedd i gysylltu â’ch cynrychiolwyr neu lofnodi neu ddechrau deiseb, mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.

Gallech hyd yn oed sefyll mewn etholiad i gynrychioli eich cymuned. Dewch i wybod mwy am sut y gallwch chi leisio eich barn, er lles pawb. Ewch i: llyw.cymru/dweud-dy-ddweud

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.