Kidwelly Town Council Logo
Menu

Dweud eich dweud ar ‘Strategaeth Arloesi newydd Cymru’

Estynnir gwahoddiad ichi gymryd rhan mewn darn pwysig o waith sy’n cael ei gyflawni dros yr wythnosau nesaf, a fydd, gobeithio, o ddiddordeb ichi.

Mae Llywodraeth Cymru’n datblygu Strategaeth Arloesi newydd i Gymru.

Trwy adeiladu ar ymchwil byd-eang a dysg a barn a rennir gan unigolion, sefydliadau a chymunedau ledled Cymru, bydd y strategaeth yn olrhain cyfeiriad clir ar gyfer y dyfodol  a blaenoriaethau cyffredin ar gyfer arloesi yng Nghymru yn y blynyddoedd sydd i ddod.

 

Byddem yn hoffi eich gwahodd i gyfrannu at y gwaith parhaus yma, ac i rannu eich barn ar yr hyn, yn eich barn chi, a ddylai digwydd, i ganiatáu i fwy o bobl arloesi, a galluogi mwy o bobl i elwa o arloesi.

Bydd eich cyfraniadau’n hysbysu’n uniongyrchol datblygiad y strategaeth hon, ac yn helpu sicrhau ei bod yn addas i bob cymuned, ym mhob rhan o Gymru.

Gallwch chi, eich cydweithwyr a’ch rhwydweithiau ymuno â’r sgwrs mewn nifer o ffyrdd syml cyn y dyddiad cau, sef 29ain Ebrill:


1.  Ymunwch â ni ar 6ed Ebrill: Dewch i’n digwyddiad Man Agored ar-lein ar ddydd Mercher 6ed Ebrill rhwng 10.00am -12.30pm, ar gyfer trafodaeth drylwyr ar y Strategaeth Arloesi newydd i Gymru, gyda phobl o bob cwr o’r wlad. Archebwch le https://tocyn.cymru/event/0d7c80ed-8c56-4f62-8e00-d42a63b84332/s   .

2. Cwblhau’r arolwg syml: Naill ai drwy rannu eich syniadau, sylwadau a phrofiadau chi, neu drwy drafod y cwestiynau hyn gyda’ch cydweithwyr a chymunedau, a rhannu eich ymatebion ar y cyd. Dolen i’r arolwg fan hyn: https://forms.office.com/r/suDV5xDLr0  . (Mae’r arolwg yn cynnwys yr egwyddorion cyffredin sy’n llywio datblygiad y strategaeth, i’ch helpu ystyried yr effaith botensial, ar eich cyfer chi, eich sefydliad neu’ch cymuned).

3. Sgwrsio gyda ni: Os byddai’n well gennych siarad gyda ni, gallwch roi gwybod inni drwy ymateb i’r ebost hwn. Byddwn yn trefnu dyddiad ac amser sy’n gyfleus ichi, neu byddem yn hapus i ymuno â chyfarfod rhithiol o’ch tîm neu gymuned i drafod pethau gyda’n gilydd.

Mae’r gweithgareddau hyn yn cael eu rhedeg gan Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.  Os hoffech drafod y gwaith yn fwy manwl, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas â’r uchod, croeso ichi gysylltu â ni drwy e-bostio: rox@copronet.wales.  

I gael y newyddion diweddaraf a gwybodaeth bellach am y strategaeth a’i datblygiad, dilynwch y ddolen hon  https://businesswales.gov.wales/innovation/innovation-strategy .

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.