Kidwelly Town Council Logo
Menu

Gefeilldref Cydweli

Mae Cydweli wedi gefeillio â St Jacut de la Mer yn Llydaw. Mae St Jacut yn dref fechan braf arfordirol nepell o borthladd St Malo. Dechreuwyd y berthynas rhwng y ddwy dref yn 2006 gyda'r nod o wella dealltwriaeth rhwng gwahanol ddiwylliannau ac ieithoedd. Arwyddwyd y Siarter ar ochr yma'r Sianel yng Nghastell Cydweli yn 2008 gan Feiri'r naill dref. Mae'r berthynas wedi llewyrchu gyda channoedd o drigolion wedi cael blas ar brofiadau newydd a chwrdd â chyfeillion newydd. Mae'r ymweliadau cyfnewid cyson yn cynnwys pobl o bob oedran ac o gefndiroedd gwahanol gan gynnwys disgyblion ac athrawon o ddwy ysgol gynradd tref Cydweli.

I ddarllen rhagor am Gymdeithas Efeillio Cydweli, cliciwch fan hyn.

Twinning Charter

Twinning Charter Signing
Twinning Photo
Twinning Ferry Photo
Twinning Music Photo
Twinning St Jacut de la Mer sign

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.