Kidwelly Town Council Logo
Menu

Gofal a thrwsio - "Cynllun Help i Symud"

A fydd eich cartref yn fwrn wrth ichi heneiddio? Gallai buddion symud i gartref llai, haws ei reoli, o bosibl mewn lleoliad â gwell gwasanaeth, wneud gwahaniaeth mawr i'ch iechyd a'ch lles, a'ch galluogi i fyw'n annibynnol am flynyddoedd i ddod.

Beth yw Cymorth i Symud? Mae Help i Symud yn cynnig cyngor AM DDIM i bobl hŷn sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi pobl hŷn drwy'r camau sy'n gysylltiedig â symud cartref. Rydyn ni yma i helpu pan fyddwch chi'n barod i symud.

Sut mae Gofal a Thrwsio yn darparu eu gwasanaethau? Maent yn cynnig yr help a'r gefnogaeth ganlynol:
• Ymweld â chi yn eich cartref i siarad am eich pryderon ynghylch tai.
• Ymchwilio'r gwahanol opsiynau tai sydd ar gael gyda chi, fel y gallwch chi wneud dewis gwybodus i weddu'ch anghenion.
• Pan fyddwch chi'n barod gallwn eich cefnogi i ddod o hyd i gartref arall sy'n gweddu'n well i'ch anghenion.
• Eich cefnogi chi gyda'r dewisiadau anodd sydd ynghlwm wrth werthu neu symud cartref.
• Eich cynorthwyo i siarad â gwerthwyr tai, cwmnïau symud, cyfreithwyr, Cymdeithasau Tai a / neu'r Cyngor.
• Gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth a chyngor i chi am wasanaethau lleol eraill sydd ar gael

Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen y daflen (PDF)

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.