Kidwelly Town Council Logo
Menu

Gwersyll Cymunedol Digidol Prosiect Eden Mawrth 2021

Mae Prosiect Eden yn cynnal 'gwersyll cymunedol' digidol ym mis Mawrth. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gallai unrhyw un sy'n cefnogi eu cymuned yn eu hamser eu hunain, neu sydd eisiau gwneud mwy i helpu eu hardal leol fod yn gymwys i gael y cyfle hwn a ariennir yn llawn!

Mae Cymunedau Prosiect Eden (dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor) yn cynnal Gwersyll Cymunedol Digidol AM DDIM - profiad dysgu sy'n cynnig cymysgedd o weithgareddau ymarferol, sesiynau gweithdy a chyfleoedd rhwydweithio i bobl o bob rhan o'r DU. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer pobl sydd eisiau datblygu syniadau, gweithgareddau neu brosiectau sydd yn gwella ei gymdogaeth a chymuned.

Bydd y Gwersyll Cymunedol Digidol nesaf yn cael ei gynnal ym mis Mawrth 2021 ac mae ceisiadau ar agor nawr. Mae croeso i bobl a bob lefel o brofiad, o ddechreuwyr i fyny, ac mae'r gwersyll yn eich cyflwyno i rwydwaith parhaus o bobl debyg sy'n cefnogi'ch gilydd.

Bydd y Gwersyll Cymunedol Digidol yn para pedwar wythnos a bydd yn cynnwys dwy sesiwn yr wythnos ynghyd ag ychydig o weithgareddau ychwanegol / all-lein i chi eu gwneud yn eich amser eich hun yn ystod yr wythnos. Gallwch hefyd dewis i dderbyn gwobr ‘Arweinyddiaeth Gymunedol Greadigol’ sef rhaglen sydd wedi’i chymeradwyo gan Prospect Award. Mae hyn wedi'i integreiddio i'r rhaglen o sesiynau heb unrhyw waith cwrs nac asesiad ychwanegol.

Am ragor o wybodaeth, ac i wneud cais ewch i: https://www.edenprojectcommunities.com/cy/gwersyll-cymunedol-digidol

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.