Mae Cyngor Tref Cydweli yn Hwb Codi Sbwriel sy'n golygu bod modd galw yma i fenthyg offer er mwyn casglu sbwriel yn yr ardal.
Mae'r offer sydd ar gael yn cynnwys codwyr sbwriel, cylchynau, festiau llachar a bagiau bin. Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys yr holl ganllawiau iechyd a diogelwch angenrheidiol. Cyn benthyg unrhyw offer, mae’n rhaid i chi gwblhau Cytundeb Benthyg Offer Codi Sbwriel ac Asesiad Risg. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen y ddogfen canllaw pellach yma.
Os oes gennych ddiddordeb mewn casglu sbwriel danfonwch neges atom i drefnu amser i fenthyg yr offer: towncouncil@kidwelly.gov.uk
Am ragor o wybodaeth ynghylch Hybiau Codi Sbwriel, dilynwch y ddolen yma.