Mae'r wefan wrthi'n cael ei chyfieithu/diweddaru. Byddwch yn amyneddgar gyda'i chynnydd. Diolch
Rhedir Hwb Cymunedol Cydweli GAN y gymuned AR GYFER y gymuned. Mae’n cael ei reoli a’i redeg gan wirfoddolwyr er mwyn:
Nod yr Hwb yw darparu lle ar gyfer unrhyw aelod o'r gymuned; rhoi cymorth i ddiwallu anghenion; i dynnu gwasanaethau a'u darparwyr ynghyd o dan un to; i lenwi'r bylchau mewn gwasanaethau cymdeithasol a chynnig cydraddoldeb, cynhwysiad a chyfoeth i drigolion Cydweli a'r cyffiniau. Mae prosiectau'r Hwb yn darparu hyfforddiant, profiad gwaith a sgiliau ar gyfer pobl sy'n chwilio am waith neu'n anelu at yrfa benodol, beth bynnag yw gallu neu anallu'r person.
Cefnogir yr Hwb gan Ynghyd CIC, menter gymdeithasol (dielw) o Gydweli sy'n gweithredu nifer o brosiectau o'r Hwb sy'n anelu i greu canolfannau tebyg mewn cymunedau eraill o fewn Sir Gaerfyrddin. Nid yw'r Hwb yn cael ei gefnogi gan Gyngor Sir Caerfyrddin nac yn cael ei ddylanwadu gan unrhyw gorff statudol.
Cefnogir yr Hwb yn ariannol gan 'Burns in the Community' a Chyngor Tref Cydweli, yn ogystal â nifer o unigolion. Mae bodolaeth yr Hwb yn ddibynnol ar y gefnogaeth yma i barhau i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau ar gyfer y gymuned.
Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â Gwefan Hwb Cymunedol Cydweli