Kidwelly Town Council Logo
Menu

HYSBYSIAD AM SEDD WAG AR GYFER SWYDD CYNGHORYDD DROS WARD MYNYDDYGARREG O GYNGOR TREF CYDWELI MEHEFIN 2021

HYSBYSIR drwy hyn yn unol ag Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 bod sedd wag ar gyfer swydd Cynghorydd dros Ward Mynyddygarreg o Gyngor Tref Cydweli.


Cynhelir etholiad i lanw’r sedd a enwyd os rhoddir cais ysgrifenedig o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o ddyddiad yr Hysbysiad hwn gan ddeg etholwr o ardal etholiadol y Cyngor Tref a enwyd, i’r Prif Weithredwr, Cyngor Sir Caerfyrddin, Rhif Adeilad 4, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, sef y Swyddog Priodol o’r Cyngor Sir.


Oni wneir cais am etholiad fel y nodwyd eisoes, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Tref yn unol a darpariaethau Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 2006.

Rhaid cyflwyno cais am etholiad, a lofnodwyd gan ddeg etholwr, yn yn Adeilad 4, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin SA31 1HQ ar unrhyw ddydd ar ol dyddiad yr Hysbysiad hwn, ond heb fod yn ddiweddarach na Dydd Llun, 21ain Mehefin, 2021. Os gwneir cais am etholiad, cynhelir yr etholiad o fewn trigain diwrnod o ddyddiad yr Hysbysiad hwn.


DYDDIEDIG 1af Mehefin 2021.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen yr hysbysiad.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.