HYSBYSIAD AM SEDD WAG AR GYFER SWYDD CYNGHORYDD DROS WARD Y CASTELL O GYNGOR TREF CYDWELI
HYSBYSIR drwy hyn yn unol ag Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 bod sedd wag ar gyfer swydd Cynghorydd dros Ward y Castell o Gyngor Tref Cydweli.
Cynhelir etholiad i lanw’r sedd a enwyd os rhoddir cais ysgrifenedig o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o ddyddiad yr Hysbysiad hwn gan ddeg etholwr o ardal etholiadol y Cyngor Tref a enwyd, i’r Prif Weithredwr, Cyngor Sir Caerfyrddin, Rhif Adeilad 4, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, sef y Swyddog Priodol o’r Cyngor Sir.
Oni wneir cais am etholiad fel y nodwyd eisoes, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Tref yn unol a darpariaethau Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 2006.
Rhaid cyflwyno cais am etholiad, a lofnodwyd gan ddeg etholwr, yn yn Adeilad 4, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin SA31 1HQ ar unrhyw ddydd ar ol dyddiad yr Hysbysiad hwn, ond heb fod yn ddiweddarach na Dydd Gwener, 24ain Gorffennaf, 2020. Os gwneir cais am etholiad, cynhelir yr etholiad rhwng 1af Chwefror a 16eg Ebrill 2021.
DYDDIEDIG 28ain Medi 2020.
Virginia O'Reilly
Clerc y Dref