Kidwelly Town Council Logo
Menu

Hysbysiad Cyhoeddus - Gorchymyn Cydgyfnerthu - Cyfyngu ar aros a mannau parcio ar y stryd (Amrywiad Rhif 39) (14/2/22)

HYSBYSIAD CYHOEDDUS
GORCHYMYN CYDGYFNERTHU SIR GAERFYRDDIN (AC EITHRIO CAERFYRDDIN, LLANELLI A RHYDAMAN) (CYFYNGU AR AROS, A MANNAU PARCIO AR Y STRYD) (AMRYWIAD RHIF 39) 2022

HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwriadu gwneud Gorchymyn dan Adran 1 (1), 2(1) i (3), 4(2), 1 2 4 a Rhan IV o Atodlen 9 i Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ("y Ddeddf") fel y'i diwygiwyd a Deddf Rheoli Traffig 2004.

Effaith y Gorchymyn fydd diwygio Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Sir Gaerfyrddin ac eithrio Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) 2004 (“Y Gorchymyn Cydgyfnerthu”) (sydd yn darparu ar gyfer cymryd camau gorfodi sifil mewn perthynas â thorri’r gwaharddiadau a'r cyfyngiadau ar aros) drwy gyfnewid y cynlluniau sydd ynghlwm wrth y gorchymyn arfaethedig am y cynlluniau rhif cyfatebol a oedd ynghlwm wrth y gorchymyn.


Gwahardd aros ar unrhyw adeg, Heol Ddŵr, Cydweli – Cynllun Rhif BQ189

 

Lleoliad

Ochr y Ffordd

Y Darn Ffordd yr Effeithir Arno

Heol Ddŵr, Cydweli

De

O bwynt sydd 20 metr i'r de-orllewin o ganol y gyffordd â'r lôn ger Heol Ddŵr am bellter o 40 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain

Lôn ger Heol Ddŵr, Cydweli

Y Ddwy

O'r gyffordd â Heol Ddŵr am bellter o 15 metr i gyfeiriad y de.

 

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen Hysbysiad y gorchymyn

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen Datganiad Rhesymau

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen y Gorchymyn drafft 

Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld y map

 

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.