Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021
1. Dyddiad cyhoeddi Gorffennaf 14eg 2021
2. Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:
Clerc y Dref, Swyddfeydd y Cyngor, Hillfield Villas, Cydweli, SA17 4UL
Rhwng yr oriau o 9.30 y bore a 12.30 y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener
Yn dechrau ar 20 Awst 2021
Ac yn dod i ben ar 17 Medi 2021
3. O 20 Medi 2021, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi ei gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
• yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon.
• yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.
Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ.
4. Cynhelir yr archwiliad o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.