Kidwelly Town Council Logo
Menu

Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 [2022]

Hysbysiad archwilio
Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
CYNGOR TREF CYDWELI
Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022

 

1.  Dyddiad cyhoeddi Mehefin 10FED 2022
2.  Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:

Clerc y Dref
Swyddfeydd y Cyngor
Hillfield Villas
Cydweli SA17 4UL
Rhwng yr oriau o 10:00 a 12:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener
Yn dechrau ar 4 Gorffennaf 2022
Ac yn dod i ben ar 29 Gorffennaf 2022

3.  O 12 Medi 2022, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi ei gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:

• yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon.
• yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.
Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ neu drwy e-bost yn archwiliadcyngorcymunedol@archwilio.cymru.
4.  Cynhelir yr archwiliad o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen yr hysbysiad.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.