Kidwelly Town Council Logo
Menu

Maer Tref Cydweli

Mae hi'n anrhydedd i wasanaethu'r gymuned fel maer y dref ar gyfer 2022 - 2023. Rhoddaf ddiolch i'r maer sy'n ymadael ei swydd am ei wasanaeth a gobeithiaf y gallaf adeiladu ar sail ei lwyddiant. Yn y cyfryngau yn ddiweddar honnwyd bod Cydweli yn un o'r 5 lle gorau i fyw yn y Deyrnas Gyfunol. Mae'n hyfryd bod y dref yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol.
Curiad calon Cydweli a Mynyddygarreg yw'n grwpiau cymunedol, a chredaf y dylai'r cyngor fod yno i gefnogi ac i annog y grwpiau yma fel y gall ein tref bod yn well ar gyfer pawb.
Rwy'n hynod falch o lwyddiannau'r cyngor tref a'r gymuned o ddatblygu ein parciau chwarae dros y tair blynedd ddiwethaf, gyda thros £250,000 o fuddsoddiad hyd yn hyn - ac yn rhywbeth rwy'n ysu i gael parhau.
Mae'r argyfwng costau byw yn ofid mawr a bydd y flwyddyn nesaf yn her i nifer yn ein cymdeithas - a'r cynnydd mewn prisiau ynni a bwyd yn bryder penodol. Gyda hyn mewn golwg ni fyddaf yn cynnal dathliad dinesig y Maer eleni, gyda'r gyllideb a glustnodwyd ar ei gyfer yn cael ei arallgyfeirio tuag at y banc bwyd i gefnogi ein trigolion lleol yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae nifer o gynghorwyr newydd yn ein hymuno eleni ac mae'n hyfryd gweld cymaint o bobl yn gwirfoddoli eu hamser i gefnogi'n cymuned fel cynghorwyr. Edrychaf ymlaen at gydweithio gyda chi er budd Cydweli a Mynyddygarreg.

Y Cynghorydd Carl Peters-Bond, Maer y Dref

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.