Kidwelly Town Council Logo
Menu

Maniffesto ar gyfer y Dyfodol

Ddydd Mawrth, Mawrth 29ain 2022, danfonodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, y neges ganlynol:

 

Heddiw, rwy'n cyhoeddi Maniffesto ar gyfer y Dyfodol: Ein hetholiadau lleol, sef cyfres o argymhellion i bleidiau gwleidyddol wrth iddynt ddatblygu eu rhaglenni gwleidyddol cyn etholiadau lleol 2022 ym mis Mai.

Mae llais pobl ifanc yn yr etholiadau sydd i ddod yn bwysicach nag erioed, gyda phobl ifanc 16 ac 17 oed yn dewis eu cynghorwyr lleol am y tro cyntaf.

Dyna pam y bûm yn cydweithio â The Democracy Box, grŵp o bobl ifanc 16-26 oed sydd wedi’u lleoli neu wedi cael ei geni yng Nghymru, i ddatblygu’r 52 o argymhellion sydd yn y Maniffesto.

Boed yn argyfwng hinsawdd a natur neu’n argyfwng costau byw, mae’n hawdd teimlo’n fach yn wyneb materion mawr y dydd. Ond yn aml gellir dod o hyd i rai o’r atebion mwyaf effeithiol ar lefel leol, a dyna pam mae’r etholiadau sydd i ddod yn gyfle mor bwysig – yn enwedig yn sgil y pandemig – i adeiladu Cymru’r dyfodol.

I wneud hyn, rhaid i ni wneud penderfyniadau call, gan wneud y cysylltiadau hynny rhwng datrys problemau’r presennol a’n gosod mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol. Mae gan bob aelod yn ein cymunedau rôl bwysig i’w chwarae, a dyna pam yr wyf wrth fy modd bod pobl ifanc wedi cael llais amlwg wrth ddatblygu’r argymhellion sy’n rhan o’r maniffesto.

Dewch o hyd i gopi o'r maniffesto yma.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.