Mae Ymgynghoriad Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru yn cael ei gynnal ar hyn o bryd a bydd yn dod i ben 8 Mehefin 2021. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar gael yma: Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru | LLYW.CYMRU
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi trefnu cyfarfod anffurfiol er mwyn i randdeiliaid gael cyflwyniad ar gefndir yr ymgynghoriad, yn ogystal â chyfle i holi unrhyw gwestiynau sydd gennych am y broses. Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyfle i Trafnidiaeth Cymru eich helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn ni cyn i’r ymgynghoriad ddod i ben.
Bydd y sesiwn yn digwydd dydd Iau, 3 Mehefin 2021 am 11am. A fyddech cystal ag anfon eich ateb at arron.bevan-john@tfw.wales i gael gwahoddiad Microsoft Teams.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Ymgysylltu â’r Gymuned a Rhanddeiliaid drwy anfon e-bost at engagement@tfw.wales