Kidwelly Town Council Logo
Menu

Newyddion Coronafeirws COVID-19 08/01/2021 Llywodraeth Cymru

Diogelu Cymru

• aros gartref
• cyfarfod pobl yr ydych yn byw gydanhw yn unig
• cadw pellter cymdeithasol
• golchwch eich dwylo'n rheolaidd
• gweithiwch o gartref os gallwch

Mae Cymru oll ar lefel rhybudd 4

Penawdau Newyddion

Prif Weinidog Cymru: “Arhoswch gartref i achub bywydau"

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod rhaid i bawb aros gartref i achub bywydau wrth iddo gadarnhau y bydd cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar y coronafeirws yn parhau yng Nghymru.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Ail frechlyn COVID-19 yn cyrraedd Cymru

Mae ail frechlyn COVID-19 yn cael ei gyflwyno yng Nghymru o ddydd Llun 4 Ionawr, a bydd 40,000 o ddosau o leiaf ar gael yn ystod y pythefnos cyntaf.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Datganiad ar y cyd gan Brif Swyddogion Meddygol y Deyrnas Unedig yn argymell y dylid codi Lefel Rhybudd COVID-19 yn y DU o Lefel 4 i Lefel 5.  

Yn dilyn cyngor gan y Gydganolfan Bioddiogelwch ac yng ngoleuni'r data diweddaraf, mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y Deyrnas Unedig a Chyfarwyddwr Meddygol NHS England yn argymell y dylid codi Lefel Rhybudd y DU o Lefel 4 i Lefel 5.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Datganiad Ysgrifenedig: Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru)

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.


Newyddion Eraill

Cynlluniau ar waith yng Nghaergybi wrth i gyfnod Pontio'r UE ddod i ben

Mae cynlluniau ar waith i sicrhau y bydd diwedd y cyfnod pontio yn tarfu cyn lleied â phosibl ar borthladd Caergybi pan ddaw i ben dros nos.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Penodi Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol

Cyhoeddodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol enwau’r Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol sydd wedi eu penodi ar gyfer etholiadau Senedd Cymru 2021.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Mwy na 500 o geisiadau ar gyfer cynllun grant cartrefi gwag gwerth £10 miliwn

Cyhoeddodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, bod mwy na 500 o geisiadau wedi dod i law i adfywio cartrefi gwag drwy Gynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd, cynllun gwerth £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.


Canllawiau

Lefel rhybudd 4: cwestiynau cyffredin

Canllawiau ar sut i ddiogelu eich hun a pha reolau sydd yn eu lle i ddiogelu pobl yn lefel rhybudd 4.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Canllawiau ar ddysgu mewn ysgolion a lleoliadau: coronafeirws

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi cyngor ar y dysgu a’r addysgu y gallai ysgolion a lleoliadau ddymuno eu darparu.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Cau busnesau: lefel rhybudd 4

Busnesau sy'n gorfod cau ar lefel rhybudd 4.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Teithio a thrafnidiaeth: cyngor

Gwybodaeth ar gyfer teithio ar draws Cymru yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Gadael eich cartref a gweld pobl eraill: lefel rhybudd 4

Rheolau ar gyfarfod pobl tu allan i'ch cartref ar lefel rhybudd 4.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Symud tŷ yn ystod y pandemig coronafeirws: y sector tai (lefel rhybudd 4)

Sut y gall landlordiaid, asiantaethau tai a datblygwyr baratoi ar gyfer ymweliadau, mynd i weld eiddo ac ailagor swyddfeydd.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Mesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant: cadw gofal plant yn ddiogel

Sut i baratoi eich gwasanaeth gofal plant i ganiatáu i fwy o blant fynychu, a'u diogelu nhw a'ch staff rhag y coronafeirws.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Mapiau proses profion cartrefi gofal

Mapiau proses i ddarparu canllawiau ar gyfer profion COVID-19 mewn cartrefi gofal.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Ysgolion: canllawiau coronafeirws

Newidiadau i ddysgu ac addysgu mewn ysgolion.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Pobl eithriadol o agored i niwed yn sgil COVID-19 sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain: cwestiynau cyffredin

Gwybodaeth i’r bobl sydd mewn perygl mawr iawn o fynd yn ddifrifol wael gyda’r coronfafeirws.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Ymweliadau â chartrefi gofal: canllawiau i ddarparwyr

Canllawiau ar sut i alluogi ymwelwyr i ymweld yn ddiogel yn ystod pandemig coronafeirws.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Gofal plant a chwarae: rhybudd lefel 4 cwestiynau cyffredin

Canllawiau i rieni a darparwyr gofal plant o dan lefel rhybudd 4.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Canllawiau ar dacsis a cherbydau hurio preifat

Gwybodaeth ar gyfer y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

 

Deddfwriaeth, Cyngor Technegol ac Ystadegau

Deddfwriaeth y coronafeirws a chanllawiau ar y gyfraith.  

Pasiwyd y cyfreithiau a'r canllawiau ar y cyfreithiau hyn yng Nghymru mewn ymateb i bandemig coronafeirws.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Tystiolaeth a data a ddefnyddir i hysbysu cyfyngiadau'r coronafeirws

Y dystiolaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i benderfynu sut i ddiogelu pawb rhag y coronafeirws.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Cyngor ar y coronafeirws gan y Gell Cyngor Technegol

Gwybodaeth i helpu gweinidogion ymateb i bandemig COVID-19 mewn modd sydd ym mudd pennaf pobl Cymru.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Y Grŵp Cyngor Technegol: amrywiolyn sy'n peri pryder ac addysg yng Nghymru

Y cyngor diweddaraf ar yr Amrywiolyn sy'n peri pryder ac addysg ac ysgolion, a ddefnyddir gan weinidogion i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth i ymateb i bandemig COVID-19.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19)

Data a'r dadansoddiad diweddaraf ar effaith coronafeirws ar gymdeithas yng Nghymru.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Asesiadau o effaith: coronafeirws

Asesiadau o sut mae ein mesurau i reoli COVID-19 yn effeithio ar gydraddoldeb.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

 

Deunydd Hyrwyddo a Phecynnau Cymorth

Lefel Rhybudd 4

Dyma'r asedau am rheoliadau Lefel 4, gan gynnwys gan gynnwys taflen Hawdd ei Darllen, clip BSL a thaflen hawdd ei rhannu mewn ieithoedd eraill.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Deunydd hyrwyddo Diogelu Cymru

Asedau am y cyfnod clo, y math newydd o coronafeirws a negeseuon cryfach – yn cynnwys lincs ar gyfer gwybodaeth Covid mewn ieithoedd eraill, ar wefan Llywodraeth Cymru.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Deunydd hyrwyddo Profi, Olrhain a Diogelu

Deunydd hyrwyddo Profi, Olrhain a Diogleu gan gynnwys deunydd hyrwyddo am ap newydd COVID-19 y GIG.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Pecyn Cymorth Busnes Cymru

Adnoddau ymarferol i helpu cyflogwyr i gadw eu gweithwyr yn ddiogel yn y gweithle.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu

Mae'r adnodd yma'n eich helpu chi i ystyried eich ffactorau risg personol ar gyfer COVID-19 ac yn argymell sut gallwch aros yn ddiogel.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

 

Ap COVID-19 y GIG

Ydych chi’n defnyddio ap COVID-19 y GIG? Mae'r ap yn eich galluogi i adrodd am symptomau, archebu prawf coronafeirws, a chofrestru mewn lleoliadau drwy sganio côd QR. Mae'r ap yn gwneud hyn wrth ddiogelu eich anhysbysrwydd. Os ydych eisioes wedi lawrlwytho’r ap, cofiwch ei ddefnyddio - po fwyaf o bobl sy'n defnyddio'r ap, po fwyaf ein siawns o leihau lledaeniad y feirws. Mae’r ap yn rhan bwysig o'n rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Astudiaeth Symptomau COVID

Helpwch ni i ymladd coronafeirws trwy adrodd ar eich iechyd yn ddyddiol, hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iawn.

Gallwch chi helpu’r GIG yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws drwy gwblhau arolwg iechyd dyddiol ar yr ap Astudiaeth Symptomau COVID. Mae’r ap hwn yn addas ar gyfer pawb, nid i’r unigolion sydd â symptomau yn unig.

Bydd yr app yn ein helpu i ddeall symptomau a lledaeniad COVID-19. Drwy ateb rhai cwestiynau cyflym, gallwch chi ein helpu i gynllunio ein hymateb i coronafeirws.

Ni fyddwn yn rhannu eich atebion y tu hwnt i’r GIG a sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt sy’n gweithio’n uniongyrchol â’r GIG i ymateb i’r coronafeirws.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Profi, olrhain a diogelu

Mae ymgyrch ar y gweill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr allweddol o strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu Llywodraeth Cymru. Mae'r wybodaeth ddiweddara am y strategaeth, gan gynnwys canllawiau i gyflogwyr, ar y wefan. (https://gov.wales/test-trace-protect-coronavirus).Mae deunydd fideo wedi cynhyrchu i ddefnyddio mewn ymgyrchoedd ac i rhanddeiliaid rhannu ar ei sianelu. Mae modd i chi lawrlwytho'r deunydd digidol fan hyn a byddem yn gwerthfawrogi os fyddech yn rhannu ar eich sianelu cymdeithasol, er mwyn rhannu gwybodaeth am y strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu.

Gwybodaeth

Addysg a gofal plant

Canllawiau ar coronafeirws i rieni, pawb sy'n gweithio mewn addysg a darparwyr gofal plant.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Busnesau a chyflogwyr

Cymorth i helpu busnesau a sefydliadau'r trydydd sector yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Cyngor iechyd

Aros gartref, hunanynysu, cael cefnogaeth fel person eithriadol o fregus.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol

Canllawiau’r coronafeirws ar gyfer y GIG a phobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, cymunedol a phreswyl.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Tai

Canllawiau i landlordiaid, cartrefi mewn parciau (symudol) a gwasanaethau cysgu allan yn ystod y pandemig coronafeirws.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Teithio

Cyngor am y coronafeirws i bobl sy’n dod nôl o wlad dramor neu’n bwriadu teithio.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Gwirfoddoli (trydydd sector)

Gwirfoddoli yn ystod pandemig y coronafeirws, cymorth i’r trydydd sector.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Gwasanaethau cymunedol

Cynllunio, tân, cam-drin domestig a thrais rhywiol.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Swyddi, sgiliau a chefnogaeth ariannol

Help gyda budd-daliadau, i aros yn y gwaith a chael sgiliau newydd.  Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor o wybodaeth.

Dolenni defnyddiol

Llywodraeth Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Busnes Cymru

Edrych ar ol ein gilydd

Gwirfoddoli Cymru

 

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.