Kidwelly Town Council Logo
Menu

Newyddion Coronafeirws COVID-19 14/05/2021 Llywodraeth Cymru

Penawdau Newyddion

Y Prif Weinidog yn cadarnhau rheolau newydd i Gymru ar deithio rhyngwladol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd teithio rhyngwladol yn ailddechrau i bobl yng Nghymru o ddydd Llun 17 Mai. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cymru yn symud i lefel rhybudd 2

Gyda lefelau’r coronafeirws yn dal i fod yn isel a’r cyfraddau brechu yn parhau i fod yn well nag yn unrhyw ran arall o’r DU, bydd Prif Weinidog Cymru yn cadarnhau heddiw y bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd 2 ddydd Llun. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Tîm newydd i arwain Cymru i ddyfodol mwy disglair

Bydd newid hinsawdd, swyddi gwyrdd newydd ac adfer o’r pandemig wrth wraidd y Llywodraeth Lafur Cymru newydd, wrth i’r Prif Weinidog Mark Drakeford ddatgelu ei dîm Cabinet newydd. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cefnogaeth bellach i fusnesau Cymru

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd busnesau yng Nghymru sy'n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau’r coronafeirws yn gallu hawlio hyd at £25,000 yn rhagor o gefnogaeth i helpu i dalu costau parhaus. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Annog gofalwyr di-dâl i ddefnyddio pecynnau hunan-brawf COVID cyflym

Mae mynediad at becynnau hunan-brawf COVID cyflym - profion llif unffordd - bellach ar gael i ofalwyr di-dâl. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Digwyddiadau prawf peilot Cymru

Wrth i gyfyngiadau'r coronafeirws barhau i lacio yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr arfaethedig o ddigwyddiadau prawf peilot i'w cynnal dros yr wythnosau nesaf. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cymru’n anfon cannoedd o beiriannau anadlu i India

Bydd cyfarpar meddygol yn cael ei anfon o Gymru i gefnogi’r ymateb rhyngwladol brys i’r pandemig coronafeirws yn India. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Y Prif Swyddogion Meddygol yn cytuno i ostwng lefel rhybudd COVID-19 yn y DU

Datganiad gan Brif Swyddogion Meddygol y DU yn lleihau'r lefel rhybudd COVID-19 yn y DU o lefel 4 i lefel 3. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Penodi Sue Tranka yn Brif Swyddog Nyrsio newydd ar gyfer Cymru

Cadarnhawyd mai’r Prif Swyddog Nyrsio newydd ar gyfer Cymru yw Sue Tranka, a fydd yn ymuno â Llywodraeth Cymru yn ystod haf 2021. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.