Kidwelly Town Council Logo
Menu

Newyddion Coronafeirws Cyngor Sir Gaerfyrddin 11/12/2020

Covid-19 yn uwch nag erioed yn Sir Gâr a dal i gynyddu

MAE Covid-19 bellach yn lledaenu'n gyflym yn Sir Gâr wrth i'r gyfradd heintio gynyddu bob dydd.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyhoeddi apêl frys, gan ofyn i bobl gyfyngu ar eu cysylltiadau â phobl eraill mewn ymdrech i atal lledaeniad y feirws.

Mae'r gyfradd achosion positif yn Sir Gâr dros 360 fesul 100,000 o bobl erbyn hyn - y gyfradd achosion uchaf a gofnodwyd yn y sir - ac yn achos pryder difrifol.

Dengys y ffigurau diweddaraf (am 1pm ar 10/12/2020) fod y gyfradd achosion yn 367.1, o gymharu â 252.2 yn y saith diwrnod blaenorol.

Mae nifer y bobl sy'n hunanynysu - naill ai er mwyn bod yn ofalus neu oherwydd bod Covid-19 arnynt - hefyd yn cael effaith ddifrifol ar gynnal gwasanaethau hanfodol megis ysgolion a gofal cymdeithasol.

Mae timau Profi, Olrhain, Diogelu yn gweithio bob awr o'r dydd i ddelio â'r nifer cynyddol o achosion.

Mae Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole, yn annog pobl i gyfyngu ar eu symudiadau fel nad yw'r feirws yn lledaenu mor hawdd.

“Mae'n frawychus pa mor gyflym mae'r feirws yn lledaenu yn Sir Gaerfyrddin - rydym ni'n gweld y rhifau'n codi bob wythnos, ac mae hyn yn digwydd am fod pobl ddim yn cymryd digon o ofal," meddai.
"Gan fod y feirws bellach yn lledaenu mor eang yn ein cymunedau, mae'n effeithio ar y gweithlu lleol a gwasanaethau hanfodol.
“Yr wythnos hon mae llawer o ysgolion wedi cyhoeddi eu bod yn mynd i ddysgu o bell. Mae ein hysgolion wedi gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau amgylchedd diogel, gyda mesurau ychwanegol ar waith i ddiogelu disgyblion a staff. Yn ôl y dystiolaeth, yn ein cymunedau mae'r broblem ac nid yn ein hysgolion. Ond mae'n fwyfwy anodd rheoli ysgolion oherwydd bod cynifer o staff yn gorfod hunanynysu.
“Mae'n rhaid i ni gadw pobl yn ddiogel, ac mae'n rhaid i ni ddiogelu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.”
Ychwanegodd: “Mae'n rhaid i hon fod yn ymdrech ar y cyd, a rhaid i ni gyd aberthu nawr er mwyn diogelu ein gilydd. Ar hyn o bryd mae'r feirws yn lledaenu i'r fath raddau, rwy'n ofni beth sydd i ddod os na wnawn ni gyd weithredu nawr.
“Os ydych chi am dreulio'r Nadolig gyda'ch teulu, rydym ni'n gofyn i chi gyfyngu ar eich cysylltiadau â phobl eraill - os oes rhaid i chi fynd mas, cadwch eich pellter wrth eraill, golchwch eich dwylo a gwisgwch orchudd wyneb, a dim ond ymweld â chartrefi pobl sydd yn eich swigen.
“Mae llawer o blant gartref o'r ysgol nawr, ac rwyf hefyd yn apelio'n uniongyrchol at rieni - dylai eich plant fod gartref yn dysgu, ac nid mas ar hyd lle gyda'u ffrindiau. Cadwch nhw gartref, arhoswch gyda'ch gilydd, ac arhoswch yn ddiogel.”

Wrth i sefyllfa Covid-19 barhau i newid - yr wythnos hon gwelwyd newidiadau i'r cyfnod hunanynysu a chyflwyno'r brechlyn - mae'r Cyngor yn annog pobl i gael y wybodaeth ddiweddaraf o ffynonellau swyddogol.

I gael rhagor o wybodaeth, cyngor a diweddariadau rheolaidd sy'n benodol i Sir Gaerfyrddin, ewch i www.sirgar.llyw.cymru ac i gael gwybodaeth genedlaethol, ewch i llyw.cymru.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.