Kidwelly Town Council Logo
Menu

Newyddion Coronafeirws Cyngor Sir Gaerfyrddin 23 Hydref 2020

Prynhawn Da,

Yr wythnos hon rydym wedi bod yn rhoi'r holl drefniadau angenrheidiol ar waith i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau cenedlaethol sy'n dod i rym o 6:00 yr hwyr heddiw.
Bydd y 'cyfnod atal' o 16 diwrnod yn effeithio ar lawer o'n gwasanaethau.
Mae canolfannau ailgylchu, canolfannau hamdden a chanolfannau gwasanaethau cwsmeriaid, yn ogystal â llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac orielau ymhlith y cyfleusterau a fydd yn cau am y cyfnod.
Bydd parciau a meysydd chwarae yn aros ar agor, er y caiff pobl eu cynghori i ymweld â hwy i wneud ymarfer corff yn unig ac i aros mor agos i'w cartref â phosibl.
Bydd ein marchnadoedd dan do hefyd yn aros ar agor er mwyn i bobl siopa am bethau hanfodol.
Bydd gwasanaethau eraill megis gofal cymdeithasol, casgliadau gwastraff o dŷ i dŷ, casgliadau gwastraff swmpus a gwaith atgyweirio brys i dai yn parhau, a bydd ein staff yn parhau i ddarparu gwasanaethau eraill drwy weithio gartref yn unol â'r rheolau cenedlaethol.
Bydd ein tîm gwasanaethau cwsmeriaid wrth law o ddydd Llun i ddydd Gwener i ateb ymholiadau a rhoi cyngor a gwybodaeth am ffynonellau cymorth.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf, yn ogystal â chyfeiriadur sy'n rhoi cipolwg ar y gwasanaethau sydd ar agor, sydd ar gau, sy'n gyfyngedig neu sydd ar-lein, ar gael ar ein gwefan. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Rydym, wrth gwrs, yn gobeithio y bydd pobl yn gweithio gyda'i gilydd i roi cyfle i'r cyfnod atal dorri'r gadwyn o heintiau Covid-19.
Byddwn yn defnyddio pob dull posibl i annog pobl i ddilyn y rheolau -cyhoeddwyd datganiad i'r wasg heddiw gydag apêl gan Arweinydd ein Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole, ar i bobl amddiffyn ei gilydd a'n Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae'r Cynghorydd Dole hefyd wedi canmol gweithredoedd pobl Llanelli, sydd wedi profi y gall cyfyngiadau weithio - mae achosion yn yr ardal diogelu iechyd bellach yn 112.4 fesul 100,000 o'r boblogaeth, sydd yn ostyngiad o'r adeg pryd y cyflwynwyd y cyfyngiadau lleol ar 25 Medi. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Rydym yn mawr obeithio y bydd y cyfnod atal hwn yn helpu i leihau nifer yr achosion ledled sir Gaerfyrddin hefyd. Ar hyn o bryd 74.7 fesul 100,000 o'r boblogaeth yw cyfradd yr haint ar gyfer y sir gyfan.

Er mai'r flaenoriaeth, a hynny'n gwbl briodol, yw diogelu iechyd pobl, rydym yn ymwybodol iawn o'r effaith a gaiff y cyfyngiadau hyn ar ein busnesau lleol.
Mae ein tîm datblygu economaidd yn darparu cymaint o gymorth â phosibl i helpu ein busnesau i fynd drwy'r cyfnod hwn, gan eu cyfeirio at ffynonellau cymorth ariannol yn ogystal â chynnig gwybodaeth a chyngor.


Cymorth i Fusnesau

Mae ein tîm datblygu economaidd yn darparu cymaint o gymorth â phosibl i helpu ein busnesau i fynd drwy'r cyfnod hwn, gan eu cyfeirio at ffynonellau cymorth ariannol yn ogystal â chynnig gwybodaeth a chyngor.

Mae gennym ddigon o gyngor ac arweiniad ar ein gwefan gan gynnwys cymorth ariannol a chyllid, templedi defnyddiol i chi eu lawrlwytho ar asesiadau risg ac arwyddion, digonedd o gyngor a gwybodaeth am reoli ciwiau, glanhau a mwy.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen y tudalennau busnes.


Gêm rygbi ryngwladol gyntaf yr hydref 

Y penwythnos hwn rydym yn edrych ymlaen at gêm rygbi ryngwladol gyntaf yr hydref wrth i Gymru chwarae yn erbyn Ffrainc. Unwaith eto, mae doniau rygbi lleol Sir Gâr a sawl un o chwaraewyr y Scarlets yn rhan amlwg o'r garfan, a dymunwn y gorau iddynt.

Wrth gwrs, gyda'r cyfnod atal ar waith, caiff pobl eu hannog i fwynhau'r gêm o gartref - bydd y neges honno'n cael ei chyfleu'n gryf gennym yfory. Rydym hefyd yn gweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys i sicrhau bod safleoedd trwyddedig yn cadw at y rheolau cau, ac ni fyddwn yn petruso cyn cymryd camau cadarn os oes angen.


Clefyd coed ynn

Mae clefyd coed ynn yn glefyd ffyngaidd sy’n effeithio pob rhywogaeth o goed ynn ar draws Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â gweddill y wlad.

Mae’r ffwng, ac sy’n broblem ledled Ewrop, yn cydio’i hun i ddail y coed ynn ac yn lledu i’r canghennau, gan beri i’r goeden farw. Gall canghennau marw a choed cyfan marw fynd yn frau iawn a syrthio, gan greu risg difrifol i’r cyhoedd y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef.

Mae clefyd coed ynn yn fater difrifol i gynghorau a pherchnogion tir ar draws y DU; amcangyfrifir y gallai 90% o goed ynn farw o’r clefyd hwn nad oes unrhyw driniaeth ar ei gyfer ar hyn o bryd.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.


Cadwch yn ddiogel ar Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys a Brigâd Dân Canolbarth a Gorllewin Cymru i sicrhau bod pawb yn aros yn ddiogel ar Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.

Mae cyfyngiadau Covid-19 yn golygu yr effeithir ar ddathliadau'r hydref.

Bydd y Cyngor hefyd yn rhannu negeseuon diogelwch gan ei bartneriaid fel rhan o'r Ymgyrch Bang flynyddol dros yr wythnosau nesaf. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor am Ymgyrch Bang.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.


Nodiadau Natur Sir Gaerfyrddin

Mae Nodiadau Natur yn cael eu llunio gan y swyddog bioamrywiaeth ar ran Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin i annog pobl i gymryd golwg fanylach ar yr amgylchedd naturiol o'u cwmpas.

Rydym yn chwilio am bobl/cymunedau/ysgolion i anfon ffotograffau atom y gellir eu defnyddio mewn rhifynnau yn y dyfodol - neu hyd yn oed creu a hyrwyddo eu 'Nodiadau Natur' lleol eu hunain.

I'r rheiny sydd â dyletswydd o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, gallai Nodiadau Natur fod yn ffordd ddefnyddiol o gofnodi a hyrwyddo eich natur leol, yn enwedig os byddwch yn anfon eich cofnodion at Ganolfan Wybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen am y Ganolfan Wybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor. 

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.