Kidwelly Town Council Logo
Menu

Newyddion Coronafeirws Cyngor Sir Gaerfyrddin 30ain Hydref 2020

Agor ffenestr siop rithwir gyda'n hymgyrch 100% Sir Gâr

Roeddem am roi gwybod i chi am ymgyrch newydd sydd ar fin cael ei lansio a gofyn am eich cefnogaeth i sicrhau ei bod yn llwyddiant mawr.

Mae 100% Sir Gâr yn arddangosfa ar-lein newydd a fydd yn rhoi sylw i'r busnesau annibynnol lleol gorau yn Sir Gaerfyrddin wrth baratoi am gyfnod manwerthu mwyaf y flwyddyn yn draddodiadol.

Y gobaith yw y bydd y cyfeirlyfr ar-lein yn dod yn adnodd hanfodol i bobl sy'n siopa i anwyliaid yn ogystal â chefnogi masnachwyr lleol pan fydd ei angen fwyaf arnynt.

Bydd ymgyrch 100% Sir Gâr yn cael ei chynnal ar Darganfod Sir Gâr a bydd yn cael sylw sylweddol ar draws ffrydiau cyfryngau cymdeithasol lleol dros yr wythnosau nesaf. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen gwefan Darganfod Sir Gâr.

Yr wythnos nesaf, byddwn yn ei hyrwyddo drwy'r cyfryngau lleol, ond yn gyntaf mae angen i fusnesau gofrestru i fanteisio ar y cyfle marchnata am ddim gwych hwn ac agor eu ffenestr siop rithwir.

Rydym eisoes wedi cysylltu â thros fil o fusnesau lleol, ond os ydych yn gwybod am unrhyw fasnachwyr lleol, annibynnol yn eich cymuned a allai fod yn rhan o 100% Sir Gâr, dywedwch wrthynt am fynd i www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes i gofrestru cyn gynted â phosibl.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn cofrestru eich busnes.


Rhybudd am dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law y penwythnos hwn a allai achosi llifogydd. Hefyd, mae gwyntoedd cryfion iawn o'r de-orllewin yn debygol.

Gallai hyn arwain at lifogydd mewn cartrefi a busnesau, oedi neu ganslo gwasanaethau trenau a bysiau, a thoriadau pŵer posibl a cholli gwasanaethau eraill. Gallai dŵr yn tasgu a llifogydd arwain at amodau gyrru anodd a chau rhai ffyrdd, felly gyrrwch yn ofalus a byddwch yn ymwybodol o amodau sy'n newid.  Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ddilyn y ddolen hon.

Mae nifer o rybuddion rhag llifogydd ar waith ar gyfer afonydd ledled Sir Gaerfyrddin. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n cael ei diweddaru bob 15 munud. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Os ydych yn pryderu am lifogydd ffoniwch y Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188.

Mae ein criwiau'n gweithio drwy gydol y penwythnos i wirio a chlirio draeniau a chwteri, ac maent wrth gefn rhag ofn y bydd unrhyw argyfyngau sy'n gysylltiedig â'r tywydd.

Gall unrhyw un sydd angen cymorth ar unwaith ffonio 01267 234567 neu ar ôl 4pm ffoniwch ein llinell argyfwng drwy Llesiant Delta ar 0300 333 2222. Fel arall, gellir rhoi gwybod ar-lein drwy ddilyn y ddolen hon.


Cyfnod Atal: Cymorth ariannol ychwanegol

Mae hon yn gronfa sy’n darparu cymorth ariannol i fusnesau sy’n wynebu heriau gweithredol ac ariannol a achosir gan y cyfyngiadau symud cenedlaethol a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru yn sgil COVID-19.


Diben y gronfa yw cefnogi busnesau gyda chymorth llif arian i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau sydd wedi’u rhoi ar waith.

Mae’r gronfa’n cynnwys dau grant ar wahân:
• Grant Ardrethi Annomestig Cyfyngiadau Symud
• Grant Dewisol Cyfyngiadau Symud

Y cyntaf i’r felin fydd hi o ran ceisiadau. Gallai hyn arwain at beidio â gwerthuso ceisiadau ar ôl eu cyflwyno os yw’r gronfa wedi’i hymrwymo’n llawn.

Bydd y grantiau yn cau am 5pm ar 20 Tachwedd 2020 neu pan fydd y gronfa wedi'i hymrwymo'n llawn.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor a gwneud cais ar-lein.


Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys a Brigâd Dân Canolbarth a Gorllewin Cymru i sicrhau bod pawb yn aros yn ddiogel ar Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.

Mae cyfyngiadau Covid-19 yn golygu yr effeithir ar ddathliadau'r hydref.

Byddwch yn ddiogel yn ystod yr wythnosau nesaf a chofiwch Barchu cymdogion, Diogelu eich GIG a'ch gwasanaethau brys a Mwynhau'r dathliadau'n ddiogel.

Caniateir i safleoedd trwyddedig sy'n dal i fod ar agor (siopau papurau newydd ac archfarchnadoedd) werthu tân gwyllt. Fodd bynnag, mae angen esgus rhesymol ar bobl i adael eu cartref (ac nid yw prynu tân gwyllt yn esgus rhesymol).

Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld eitemau hanfodol yn ystod y cyfnod atal.


Cofio 2020

Mae cyfnod y Cofio yn hanfodol bwysig i bob un ohonom, er mwyn inni allu anrhydeddu gwasanaeth ac aberth cymuned y Lluoedd Arfog.

Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr werthfawrogi y bydd Awdurdodau Lleol, cynghorau tref a chymuned, ynghyd ag elusennau a'r Fyddin, yn cynllunio gweithgarwch y Cofio ar gyfer mis Tachwedd 2020 ac rydym am sicrhau bod gan drefnwyr gymaint o wybodaeth ar gael iddynt er mwyn cynllunio gweithgarwch y Cofio'n ddiogel.

Er mwyn i drefnwyr allu glynu wrth ganllawiau a chynllunio Deddfau Cofio yn ddiogel, rydym yn rhannu'r canllawiau cenedlaethol a lleol presennol i Gymru ynghylch Covid 19. Dilynwch y ddolen hon er mwyn eu darllen.

Cynhwysir rheolau ar gyfer crynoadau awyr agored a mannau addoli yn y Cwestiynau Cyffredin a gobeithiwn y bydd y rhain yn helpu i gynllunio Deddfau Cofio e.e. Wrth gofebau Rhyfel.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen cwestiynau cyffredin yn ymwneud yn benodol â'r Cofio.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.