Kidwelly Town Council Logo
Menu

Newyddion Coronafeirws Llywodraeth Cymru 23 Hydref 2020

Penawdau Newyddion

£300m i fusnesau yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn dyblu trydydd cam ei Chronfa Cadernid Economaidd i bron £300 miliwn er mwyn helpu busnesau sy’n dal i deimlo effeithiau COVID-19. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

£10 miliwn i gefnogi myfyrwyr prifysgol drwy’r pandemig

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn darparu £10 miliwn yn ychwanegol eleni i gefnogi myfyrwyr prifysgol yn ystod y pandemig. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Llywodraeth Cymru i ddod â masnachfraint y rheilffyrdd o dan reolaeth gyhoeddus

Yn wyneb y cwymp aruthrol a fu yn nifer y teithwyr ar y rheilffyrdd, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dod â masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau o dan reolaeth gyhoeddus. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cyfnod atal y coronafeirws: cwestiynau cyffredin

Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â rheolau a ddaw i rym am 6:00pm ddydd Gwener 23 Hydref. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Datganiad Ysgrifenedig: Llythyr newydd gan Brif Swyddog Meddygol Cymru at yr unigolion hynny a oedd yn arfer gwarchod eu hunain

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Dŵr gwastraff yn dangos a yw’r COVID ar gynnydd yn lleol

Mae rhaglen beilot sy’n monitro’r coronafeirws yn systemau carthffosiaeth Cymru yn profi bod dŵr gwastraff yn gallu dangos a yw’r feirws ar gynnydd yn y gymuned. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cronfa gwerth £1 filiwn i ofalwyr i nodi lansiad ymgynghoriad cyhoeddus

Mae cronfa newydd gwerth dros £1m i helpu gofalwyr di-dâl i ymdopi â phwysau ariannol COVID-19 wedi’i chyhoeddi gan y Dirprwy Weinidog Iechyd. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru)

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Y Gweinidog Cyllid yn dweud nad yw datganiad y Canghellor yn mynd yn ddigon pell

Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, yn dweud bod y mesurau cefnogi swyddi a gafodd eu hamlinellu gan y Canghellor heddiw yn ‘gam yn y cyfeiriad cywir’. Fodd bynnag, rhybuddiodd hefyd nad yw lefel y cymorth yn mynd yn ddigon pell i sicrhau incwm priodol i weithwyr. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Anogir goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol i geisio cymorth yn ystod y cyfnod o gloi mewn argyfwng

Mewn apêl uniongyrchol ar drothwy’r cyfnod atal byr, gofynnodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, i ffrindiau a chymdogion gadw llygad am arwyddion o gam-drin domestig, ac anogodd ddioddefwyr a goroeswyr i geisio cymorth a dianc o'u cartrefi os oes angen. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.