Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau cryf i gefnogi pobl ledled Cymru dros gyfnod y Nadolig.
Bydd Cymru wedyn yn cyflwyno cyfyngiadau newydd, gan gynnwys ar gyfer busnesau a gwasanaethau – a hynny o 27 Rhagfyr ymlaen. Bydd hyn yn cynnwys rheol cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr mewn swyddfeydd a rhoi mesurau ychwanegol ar waith i ddiogelu cwsmeriaid a staff – ee, systemau unffordd a rhwystrau ffisegol.
Bydd clybiau nos yn cau hefyd. Mae angen y cyfyngiadau llymach hyn i helpu i reoli lledaeniad Omicron.
Er mwyn cadw'n ddiogel yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pawb yn gryf i ddilyn y pum mesur hyn i gadw'n ddiogel:
• Cael eich brechu – ac os ydych wedi cael apwyntiad i gael pigiad atgyfnerthu, ewch amdani.
• Os ydych yn mynd allan, yn mynd i siopa Nadolig neu'n ymweld â phobl – cyn gadael y tŷ, profwch da chi. Cymerwch brawf llif unffordd. Os yw'n bositif – arhoswch gartre.
• Mae cwrdd yn yr awyr agored yn well na chwrdd dan do. Os ydych yn cwrdd dan do, gwnewch yn siŵr fod yno ddigon o awyr iach.
• Cymdeithasu bob hyn a hyn – os ydych wedi trefnu digwyddiadau, gadewch o leiaf ddiwrnod rhyngddynt.
• A chofiwch gadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb a golchi'ch dwylo.
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer rhagor o wybodaeth.
Does dim newidiadau i gasgliadau biniau dros y Nadolig. Rhowch eich sbwriel allan (gan gynnwys casgliadau gwastraff hylendid) ar eich diwrnod casglu arferol.
Rhowch eich biniau allan erbyn 6am ar eich diwrnod casglu, a chofiwch mai dim ond tri bag du y gallwch eu rhoi allan ac ailgylchwch gymaint â phosibl.
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer rhagor o wybodaeth.
Bydd y canolfannau ailgylchu yn Nhrostre (Llanelli), Nantycaws (Caerfyrddin), Wernddu (Rhydaman), a Hendy-gwyn ar Daf i gyd ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan a byddant yn cau am 12.00 canol dydd ar Noswyl Nadolig a Nos Galan (apwyntiadau olaf am 11.30am).
Mae'r holl safleoedd gan gynnwys Hendy-gwyn ar Daf ar agor ddydd Llun, 27 Rhagfyr, dydd Mawrth, 28 Rhagfyr a dydd Llun, 3 Ionawr.
Cyn i chi fynd, cofiwch wahanu unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu - gellir ailgylchu coed Nadolig, eitemau trydanol a batris.
Bydd unrhyw un sy'n mynd â’i goeden Nadolig go iawn i ganolfan ailgylchu ym mis Ionawr yn cael bag o Gompost Hud Myrddin yn rhad ac am ddim.
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer rhagor o wybodaeth.
Mae enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Dathlu Diwylliant Sir Gaerfyrddin 2022, ac eleni rydym yn chwilio am unigolion, grwpiau a sefydliadau a wnaeth gyfraniad cadarnhaol i ddiwylliant yn ystod pandemig COVID-19.
Mae'r rhai sy'n cyfoethogi ein bywydau drwy gerddoriaeth, y celfyddydau, y cyfryngau, llenyddiaeth a threftadaeth yn cael eu cydnabod yn flynyddol yn y gwobrau nodedig hyn, a drefnir gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Eleni nid oes categorïau celfyddyd a bydd y gwobrau'n tynnu sylw at y rhai a wnaeth argraff drwy'r celfyddydau a diwylliant yn ystod y pandemig.
Gellir enwebu unrhyw un sy'n byw, yn gweithio, neu'n dod o Sir Gaerfyrddin a wnaeth gyfraniad i ddiwylliant Sir Gaerfyrddin yn ystod 2020 neu 2021 am wobr.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Bydd ein canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid a'n desgiau talu yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli yn cau am 1pm ar 24 Rhagfyr ac yn ailagor ddydd Mercher 29 Rhagfyr.
Byddant yn cau am 1pm ddydd Gwener 31 Rhagfyr ac yn ailagor ddydd Mawrth 4 Ionawr.
Os bydd angen cyngor wyneb yn wyneb arnoch gwnewch apwyntiad yn gyntaf drwy Fy Nghyfrif Hwb neu drwy ffonio 01267 234567.Dylech barhau i ddefnyddio Fy Nghyfrif Hwb ar gyfer gwasanaethau a thaliadau ar-lein.