Kidwelly Town Council Logo
Menu

Newyddion Cyngor Sir Gaerfyrddin 28 Mai 2021

Newidiadau i gasgliadau ailgylchu a biniau yn y dyfodol

Rydym yn bwriadu cyflwyno newidiadau i'ch casgliadau biniau dros y tair blynedd nesaf er mwyn cynyddu'r cyfraddau ailgylchu, lleihau ein hôl troed carbon a darparu gwasanaeth mwy cost effeithiol.

Diolch i'ch ymdrechion gwych, gwnaethom gyrraedd targed ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru o 64% yn 2019/2020 ac mae angen i ni nawr gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2025. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni newid y ffordd rydym yn casglu gwastraff.

Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau arfaethedig i gasgliadau gwastraff o dŷ i dŷ i'w gweld ar ein gwefan ynghyd ag arolwg. Drwy gwblhau'r arolwg, byddwch yn helpu i lywio'r ffordd rydym yn cyflwyno unrhyw newidiadau ac yn ein helpu i ddeall yr heriau y gallai preswylwyr eu hwynebu. Bydd yr arolwg yn cau ddydd Mercher 7 Gorffennaf.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.


Cadwch yn ddiogel dros ŵyl y banc a hanner tymor

Cofiwch gadw'n ddiogel pan fyddwch allan ar hyd y lle dros benwythnos gŵyl y banc ac yn ystod gwyliau hanner tymor.

Mae'n debygol y bydd llawer o bobl yn ymweld â Sir Gaerfyrddin a gall rhai o'n mannau prydferth a thraethau fod yn brysur iawn. Felly beth am fynd i ddarganfod hoff le newydd ac archwilio rhai o'n trysorau cudd gan gynnwys Bae Caerfyrddin yn y de a mynyddoedd Cambria yn y gogledd. Gall ychydig o ymchwil a chynllunio ychwanegol ei gwneud yn llawer mwy pleserus. Ewch i wefan Darganfod Sir Gâr i gael rhai syniadau drwy ddilyn y ddolen hon.

Er mwyn diogelu pawb, mae ein busnesau twristiaeth yn rhoi safonau glanhau uwch ar waith ac wedi newid eu gweithdrefnau i gydymffurfio â chanllawiau'r Llywodraeth. Mae llawer bellach yn falch o gyflawni achrediad twristiaeth Barod Amdani, sydd ar waith ledled y DU.

Cofiwch gadw eich pellter wrth eraill, golchi eich dwylo yn aml a gwisgo orchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do.

Gwnewch addewid i Gymru. Byddwch yn barchus a gwnewch y pethau bychain i gadw Cymru'n ddiogel.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.


Casglu biniau dros Ŵyl Banc y Gwanwyn

Cofiwch fod newidiadau o ran casglu biniau dros Ŵyl Banc y Gwanwyn.

O ddydd Llun 31 Mai tan ddydd Gwener 4 Mehefin bydd y casgliadau'n digwydd un diwrnod yn hwyrach na'r arfer. Bydd casgliadau dydd Gwener yn digwydd ddydd Sadwrn yn lle. Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gasgliadau gwastraff gardd hefyd.

Mae'r canolfannau ailgylchu yn Nhrostre (Llanelli), Nantycaws (Caerfyrddin), Wernddu (Rhydaman), a Hendy-gwyn ar Daf i gyd ar agor ar ddydd Llun Gŵyl y Banc. I drefnu apwyntiad ewch i'r wefan neu ffoniwch 01267 234567.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.